Adrian Bamford
Neath Music Ltd
Trosolwg:
Gwerthu a thrwsio offerynnau cerdd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Penderfynais droi fy hobi, fy nghariad cyntaf, yn fusnes ar ôl colli fy swydd mewn TG yn ystod dirwasgiad 1993. Roedd gen i brofiad helaeth yn y diwydiant cerddoriaeth: fel cerddor, newyddiadurwr technegol a pheiriannydd sain llawrydd, ond dim profiad o redeg busnes.
 
Rydym bellach yn gwerthu offerynnau cerdd, chwyddseinyddion ac ategolion. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth trwsio a sefydlu cynhwysfawr. Rydym yn rhedeg adran rhentu offer sain ac ymgynghoriaeth, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau cynnig gwersi yn y siop.
 
"Ceisiwch weld yr atebion, nid y problemau."
 
Adrian Bramford - Neath Music Ltd. 
Rydw i wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd: nad oeddwn mor glyfar ag y credais yr oeddwn, a’i bod yn anoddach nag y credwn yr ydoedd i redeg fy musnes fy hun.
 
Fodd bynnag, rydw i wedi dysgu o bob camgymeriad rwyf wedi’i wneud.