Afryl Davies
Goriad
Trosolwg:
Cwmni cynhyrchu rhaglenni radio a theledu
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Dechreuais fy musnes fy hun ddeuddeng mlynedd yn ôl, oherwydd roeddwn i eisiau bod yn greadigol, ac i reoli fy mywyd fy hun ar ôl gyrfa fel athrawes. Prif fusnes Goriad yw cynhyrchu radio a theledu, er ein bod hefyd yn darparu hyfforddiant cyfryngau, trefnu cynadleddau, gweithdai a chyrsiau, yn ogystal â golygu fideo, sain a chylchgronau yn Gymraeg a Saesneg.
 
Credwch yn eich syniad a chi eich hun – ac mae unrhyw beth yn bosib!
Afryl Davies - Goriad
 
Fy musnesau eraill yw rhentu tai tymor hir; tŷ gwyliau yng Nghaerdydd; gweithio fel athrawes lanw; a gofalu am fy ŵyr a’m wyres. Mae bob dydd mor wahanol. 
 
Rydw i’n meddwl bod rhedeg busnes yn hwyl, yn waith heriol a chaled, ond rwy’n caru amrywiaeth yr hyn yr wyf yn ei wneud.  Yr unig beth rwy'n ei ddifaru yw nad ydw i wedi ei wneud yn gynt. Fy arwyddair yn awr yw 'gallaf, gallaf, gallaf!'