Aimee Bateman
Career Cake
Trosolwg:
Gwefan yrfaoedd sydd wedi ennill gwobrau
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

‘Mae Aimee’n wybodus tu hwnt ac mae’n bleser ei gwylio wrth ei gwaith’ – geiriau James Caan, cyn aelod o banel Dragon’s Den ac entrepreneur recriwtio.

Cyn mynd ati i sefydlu ei sianel YouTube ei hun a careercake.com - gwefan ymgynghori gyrfaoedd  sydd wedi ennill llu o wobrau – bu Aimee’n gweithio i gwmnïau recriwtio mawr.

Mae fideos Aimee ar YouTube wedi cael eu gwylio dros 7.5 miliwn o weithiau a chyda’i gweithgareddau marchnata digidol, yn 2013, fe enillodd wobr Talent ac Arloesi Sefydliad y Cyfarwyddwyr a chafodd ei choroni’n Farchnatwr y Flwyddyn gan Canmol (y Sefydliad Marchnata Siartredig).  Yn ddiweddar, mae Aimee wedi ei bod yn cyflwyno ar nifer o raglenni teledu fel ‘yr arbenigwraig recriwtio’ gan gynnwys:

Yn 2014, derbyniodd Aimee Gymrodoriaeth er Anrhydedd am ei chyfraniad i yrfaoedd a’r gymuned yn ei chyfanrwydd.   Mae hi hefyd wedi cyflwyno llawer o raglenni teledu gan gynnwys y canlynol:

  • BBC1 Wales’ X-Ray - 9 pennod fel ‘Arbenigwraig Recriwtio’, 2010-2011
  • BBC3 Cash Mob – Cyflwynydd, 2010
  • BBC2 Learning  – Cyflwynydd Gyrfaoedd, Apprentice for a Day – Ebrill 2013
  • Sioe Realiti Gyrfaoedd Ar-lein – Cyflwynydd ‘The Job Academy’ – 2013 (ar hyn o bryd, mae’r rhaglen wedi cael dros 2.5 miliwn o ymweliadau ar YouTube ac mae wedi ennill Gwobr fawreddog ‘Creative’)

Aimee yw awdur colofn #AskAimee yng nghylchgrawn Accounting Technician ac mae hi wedi cael ei dyfynnu yn yr Independent, Observer, Glamour, Huffington Post a’r cylchgrawn Jobs and Career.  Mae hefyd wedi ysgrifennu erthyglau am yrfaoedd yn y Guardian, Totaljobs.com, cylchgrawn Stylist, Jobsite.co.uk ac Undercover Recruiter.

Yn gryno, mae Aimee yn siaradwraig hyderus, llysgenhades busnes ac arbenigwraig swyddi adnabyddus.

Gwefan: www.careercake.com

Twitter: @Aimee_Bateman

LinkedIn: Aimee Bateman