Alan Wenden
Adwell Foods
Trosolwg:
Rydym yn gwerthu te, coffi a siocled yfed Cymreig, pob un wedi’i becynnu’n ddwyieithog.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Abertawe

Dechreuais i fy nghwmni ugain mlynedd yn ôl achos roeddwn i’n credu bod bwlch yn y farchnad am frandiau Cymreig eiconig. Rydym yn gwerthu te, coffi a siocled yfed Cymreig, pob un wedi’i becynnu’n ddwyieithog, sy’n creu pwynt gwerthu unigryw. Erbyn hyn rydym yn cyflenwi’r holl gadwyni archfarchnad yn ogystal â manwerthwyr annibynnol, gwestai a dosbarthwyr bwyd.

Defnyddiwch eich sgiliau gorau eich hun – eich dawn gryfaf ydy’ch ffordd ymlaen. Felly gwnewch gynllun busnes sy’n defnyddio’r rheini.

Alan Wenden - Adwell Foods

Mae Adwell Foods yn fusnes teuluol o hyd. Rydym wedi gweithio’n galed i aros ar flaen y farchnad, drwy ailfrandio, a gwerthu mwy o gynnyrch drwy ein gwefan.

Gwefan: welshbrewtea.co.uk