Alexis Charkiw Photo
Alexis Hughes
Right Click Accounting
Trosolwg:
Gwasanaethau cadw cyfrifon ac ymgynghori busnes gan ddefnyddio theori a phrofiad ymarferol i greu gwerth i gleientiaid.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Mae Right Click Accounting yn bractis cadw cyfrifon ac ymgynghori busnes sy'n cael ei redeg gan Alexis Hughes sy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth gwych a phrofiad ymarferol i gleientiaid.  Mae Alexis wedi sefydlu nifer o fusnesau gan gynnwys busnes tanysgrifio cynnyrch sy'n dosbarthu dros 6,000 o bocsys ledled y byd a chwmni technoleg ap.  Mae hi wedi llwyddo i wneud hyn gyda £100k o help ariannol gan Lywodraeth Cymru.  Mae Alexis yn defnyddio ei chefndir corfforaethol, ei chymhwyster cyfrifyddu a’i phrofiad busnes i gynghori cleientiaid ar systemau digidol, symleiddio prosesau a theclynnau trefnu er mwyn helpu cleientiaid gyda’u cyfrifon ond hefyd eu helpu i ddatblygu eu busnes.

Ym mis Mai 2019, roeddwn yn priodi yng Nghroatia a'r noson cyn fy mhriodas, roeddwn yn cwblhau'r cyfrifon ar gyfer fy musnes tanysgrifio.  Dywedodd fy ngŵr, 'os wyt ti'n caru cyfrifon cymaint a hyn, pam na wnei di ddechrau busnes gyda chyfrifon?' a'r mis nesaf, ganed Right Click Accounting!

Fe wnaeth fy mhlant fy ysbrydoli i archwilio bod yn fos arnaf fy hun oherwydd roeddwn yn ofni, trwy gael fy nghyflogi, y byddai gan rywun arall yr hawl i ddweud na allwn fynd i ddramâu Nadolig fy mhlant na digwyddiadau pwysig.

Mae'r problemau yr wyf wedi'u goresgyn yn rhy niferus i'w rhestru yma ond y brif broblem sy'n dod i'r meddwl oedd pan roedd fy musnes tanysgrifio yn tyfu ac roedd ganddo dros dair blynedd o dyfiant organig.  Ar ôl glanio yn Sbaen, fe roddais fy ffôn ymlaen a chael fy llethu gan negeseuon e-bost gyda'r teitl 'canslo tanysgrifiad'.  Tra roeddwn yn hedfan i Sbaen, mae'n ymddangos bod fy natblygwyr gwe wedi 'ail-osod' fy ngwefan ac wrth wneud hynny, fe anfonwyd hysbysiad torri rheol at Paypal a ganslodd yr holl danysgrifiadau yn awtomatig.  Er fy mod yn Sbaen, darganfyddais nad oedd Paypal na'r datblygwr gwe yn gallu ail-sefydlu’r tanysgrifiadau hynny.  Felly, pan gyrhaeddais adref, treuliais ychydig ddyddiau yn cysylltu â phawb ac yn eu helpu i ail-danysgrifio'n uniongyrchol ac anfon cynhyrchion fel arwydd o ewyllys da am unrhyw anghyfleustra a achoswyd. Allai dweud, wnes i ddim mo'r camgymeriad hwnnw eto!

Byddwn i'n dweud mai'r peth gorau am fod yn fos arnoch chi'ch hun yw gallu gwneud penderfyniadau yn gyflym a symud gyda thueddiadau.  Rwy’n mwynhau'r hyblygrwydd sy'n gysylltiedig ag ef hefyd oherwydd mae'n golygu y gallaf dreulio amser gyda fy nheulu pan fo angen a mynd i siopa gyda ffrind os ydw i eisiau!

Fy mhrif gyngor fyddai peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth a newid eich meddwl.  Dyw hynny ddim yn arwydd o fethiant.  Mae gallu newid cyfeiriad a manteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi yn elfennau cyffrous o fusnes felly rhowch gynnig ar a phrofi syniadau newydd - ewch amdani!

Galla i helpu gyda phob agwedd ar ddechrau busnes - cyllid, marchnata, strwythur busnes, eFasnach a chaffael.