Alison Moger
Alison Moger
Moger Designs
Trosolwg:
I am a professional visual and applied artist involved in setting up exhibitions and research related to textile projects, regularly exhibiting and selling work alongside freelance teaching.
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Rydw i’n artist gweledol a chymhwysol proffesiynol sy’n gosod arddangosfeydd ac yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiectau tecstilau, ac rwy’n arddangos ac yn gwerthu gwaith yn rheolaidd, law yn llaw â gweithio fel athro llawrydd.

Rydw i wedi gweithio i mi fy hun erioed, ac fe ddechreuais ar fy ngyrfa yn trin gwalltiau, gan gyflogi tri aelod o staff am ddeng mlynedd. Yna fe werthais y busnes am elw yn dilyn profedigaeth yn y teulu. Fe wnes i ymroi’n llwyr i fagu fy nheulu ifanc a pharhau i redeg busnes trin gwallt ar raddfa lai o’r cartref.

Ar ôl i’r plant ddechrau mynd i’r ysgol yn llawn amser, fe wnes i ddechrau meddwl am ddilyn fy mreuddwydion fel person creadigol. Fe ddechreuais i wneud cwrs sylfaen yn rhan-amser, gan fynd ymlaen i brifysgol i astudio celf. Roedd hynny’n freuddwyd gen i pan oeddwn i’n ifanc ond, heb yn wybod i neb, roedd gen i ddyslecsia ac roedd pobl yn dweud wrtha i y byddai hynny’n amhosib i mi yn academaidd. Roeddwn i eisiau dangos eu bod nhw’n anghywir!

Mae hyn wedi bod yn waith caled, ac yn rhwystredig weithiau pan nad ydy pethau’n symud yn ddigon cyflym, neu pan fydd angen newid cyfeiriad wrth i broblemau godi. Ond mae gallu gwneud rhywbeth rwy’n ei garu, a gwneud arian o hynny, yn uchafbwynt. Hefyd, mae gallu gweithio gyda phobl o bob oed sydd angen cael eu hysbrydoli gan waith celf yn anhygoel. Ac yn y byd hwn o newid lle mae’n bosib na fydd neb yn ymddeol, mae’n galonogol meddwl y gallai fy math i o fusnes barhau’n ddi-ben-draw.

“Nid ble rydych chi sy’n bwysig, ond y daith sydd wedi’ch arwain i’r fan honno.”