Amanda Griffiths
Melin Tregwynt
Trosolwg:
Dylunio a gwehyddu tecstilau gwlân Cymreig traddodiadol.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Sir Benfro

Busnes teuluol yw Melin Tregwynt a sefydlwyd gan dad-cu fy ngŵr dros 100 mlynedd yn ôl.  Rydyn ni’n dylunio ac yn gwehyddu tecstilau gwlân Cymreig traddodiadol; mae ganddon ni hefyd siop, caffi a gwasanaeth dylunio pwrpasol ar y safle. 

"Rhowch gynnig arni – does wybod beth y gallwch ei wneud oni bai eich bod yn rhoi cynnig arni!"

Amanda Griffiths - Melin Tregwynt

Ers i mi ymuno â'r busnes, mae pob elfen ohono wedi tyfu. Erbyn hyn, rydyn ni'n allforio yn ogystal â dylunio a gwerthu yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni hefyd yn datblygu gwasanaeth gwerthu ar-lein ochr yn ochr â'n busnes gwerthu drwy'r post.

I ddweud y gwir, fe enillais radd mewn Saesneg a Hanes, ac ro'n i'n gyfrifydd trethi yng Nghyllid y Wlad cyn ymuno â Melin Tregwynt.  Erbyn hyn, rydw i'n gysylltiedig â phob elfen o'r busnes, gan gynnwys dylunio, staff, a rheoli arian.


Cysylltu gyda Amanda