Andrea Callanan
Andrea Callanan
Sing & Inspire
Trosolwg:
Ysgogi a rhoi egni i weithluoedd drwy ganu
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Sing & Inspire yn gwmni llwyddiannus sy'n ysgogi ac yn rhoi egni i weithluoedd busnesau drwy ganu.

Rydw i wedi addysgu cerddoriaeth ers ro'n i'n 15 oed. Felly, mae cael fy musnes cerdd fy hun yn gam naturiol a ddaeth o syniad ar y cyd gen i a fy mhartner busnes.

"Paratowch eich cynllun busnes, crëwch rwydwaith i'ch cefnogi, pennwch darged ac EWCH AMDANI!"

Andrea Callanan - Sing & Inspire

Rydw i'n hoffi gwneud penderfyniadau am sut i redeg y busnes. Rydw i hefyd yn hoffi cael y rhyddid i fod yn arloesol a chreadigol yn ogystal â gallu arwain tîm.

Roedd fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes yn un brysur a chyffrous, ond roedd yn waith caled ac roedd gen i lawer i'w ddysgu.

Ymhen 5 neu 10 mlynedd, hoffwn i gael swyddfeydd yn Llundain ac Efrog Newydd gyda thîm mwy a'r posibilrwydd o ehangu.