Andrew Pope
Andy Pope Speaker Coach
Trosolwg:
Gweithio gyda phobl i wella sgiliau siarad a chyflwyno
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Gall pob un ohonom ddysgu a thyfu. Fy nghenhadaeth bersonol yw helpu cymaint o bobl fusnes broffesiynol ag y gallaf i brofi canlyniadau gwirioneddol bwerus, dyrchafol a phroffidiol drwy gyfathrebu gwell ac effeithiol wyneb yn wyneb. Bydd y manteision yn enfawr.
 
Rydych yn unigryw, felly byddwch yn chi eich hun bob amser - mae'n llawer rhy anodd ceisio bod yn unrhyw un arall.
Andrew Pope - Speaker Coach
 
Credaf fod cyfathrebwyr effeithiol wyneb yn wyneb yn fwy hyderus, yn gynhyrchiol ac yn ddylanwadol, gan arwain at fwy o elw a mwy o hapusrwydd. Rwy'n cynllunio ac yn cyflwyno seminarau mewnol rhyngweithiol a phwrpasol, gan weithio gyda phobl a sefydliadau busnes sydd wedi ymrwymo i wella eu sgiliau siarad a chyflwyno. Rwyf hefyd ar hyn o bryd yn ysgrifennu mwy o lyfrau ac yn cynhyrchu pecynnau hyfforddiant sain ac ar-lein i gyrraedd cynulleidfa ehangach fyth. 
 
Fy ysbrydoliaeth fwyaf a fy model rôl yw fy ngwraig brydferth, sydd wedi fy nghefnogi a'm hannog bob amser. 

Gwefan: andypope-speakercoach.com

Twitter: @eryglas

Facebook: AndrewPope

Youtube: AndyPopeSpeakerCoach