Angela Gidden
Angela Gidden
Attic 2 Ltd
Trosolwg:
Ymgynghori ar ddylunio dodrefn, tecstilau, cynnyrch a ffasiynau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydym yn gwmni Ymgynghoriaeth Dylunio sy'n arbenigo mewn dodrefn, tecstilau, a dylunio cynnyrch a ffasiwn. Wedi’i sefydlu yn 1999, rydym yn frand dodrefn Prydeinig gyda gwreiddiau Cymreig cryf ac angerdd am ddylunio a chreu dodrefn o ansawdd â llaw. Rwy'n gefnogwr ymroddedig i ddylunio a busnes yng Nghymru. Cefais MBE (Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig) gan y Frenhines yn ei rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd yn 2007 ac yn ddiweddar cefais fy ngwneud yn Gadeirydd Fforwm Diwydiant Ffasiwn a Thecstiliau Cymru.

Dyw hi ddim yn amhosib troi syniad gwallgof yn syniad masnachol go iawn, felly peidiwch â diystyru’r syniadau gwyllt neu fawr yn rhy sydyn. Canolbwyntiwch, defnyddiwch yr hyn a wyddoch a chadwch at yr hyn yr ydych yn ei wneud orau. Mae rheoli'r busnes yn un peth, mae rheoli 'chi eich hun' yn beth arall. Mae busnesau yn llwyddo gydag angerdd. 

Angela Gidden - Attic 2 Ltd

Fy rhwystr cyntaf oedd bod yn ddynes yn mentro i fyd busnes. Roeddwn yng nghanol diwydiant wedi’i ddominyddu gan ddynion ac yn gwybod y byddai'n her chwalu’r rhwystrau. Un peth a sefydlais yn gynnar iawn yn fy musnes oedd mai'r allwedd i fod yn llwyddiannus a chynaliadwy mewn busnes oedd gallu bod yn addasadwy, hyblyg ac ymatebol iawn. Roedd fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes yn un o’r rhai anoddaf erioed i mi.

Yn ei hanfod, rwy’n credu mai fy ysbrydoliaeth fwyaf yw fy lefel uchel di-stop o egni creadigol. Y wefr a gaf o gymryd syniad a’i droi yn gynnyrch masnachol go iawn. Mae deall pŵer dylunio i mi yn heintus, gwybod sut i’w ddefnyddio er mwyn datrys problemau a chreu gwell cynnyrch ar gyfer y marchnadoedd, yn fyd-eang. Yr wyf yn hynod angerddol am ddylunio a chreadigrwydd ac yn caru'r ffaith fy mod wedi troi fy nghreadigrwydd (a oedd unwaith yn hobi) i mewn i fusnes.

Mae fy sesiwn ynghylch fy nhaith, yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau, y llwyddiannau a'r methiannau, y da a’r drwg. Yr wyf yn cyflwyno stori go iawn a gonest i'r myfyrwyr yn ogystal â dangos angerdd, ymroddiad, ffocws, egni a gweledigaeth o fewn fy musnesau. Ar y lleiaf yr wyf yn teimlo ei bod yn hanfodol i ymgysylltu, grymuso a'u hysbrydoli i archwilio.

Gwefan: http://www.attic2.co.uk/