Ar ôl mynd i ysgolion yng Nghaerffili, fe enillais radd BSC (Anrh.) mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd ymlaen i gwblhau tystysgrif addysgu TAR.
"Os yw'n werth ei wneud, mae'n werth ei wneud heddiw, ac os yw'n werth ei wneud heddiw, mae'n werth ei wneud nawr"
Ann Lancett - MarkIt Training and Consultancy Ltd
Athrawes wyddoniaeth oeddwn i ar y dechrau, cyn mynd yn ddarlithydd a dechrau gweithio ym meysydd rheoli gwasanaeth myfyrwyr, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.
Rydw i wedi bod yn rhedeg busnes ers blynyddoedd lawer erbyn hyn. Rydyn ni'n ymgymryd â phrosiectau ymchwil, ymgynghori, hwyluso a rheoli digwyddiadau ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt.
Nid oes gen i swyddfa, dim ond blackberry, gliniadur a pharodrwydd i deithio! Mae ganddon ni 7 o weithwyr cyswllt sy'n rhan o dîm prosiect i ddiwallu anghenion pob un o'n prosiectau.