Anna Constantinou
Anna Constantinou
Constantinuous
Trosolwg:
Salonau trin gwallt ar draws Cymru a Llundain
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Ro'n i'n ddisgybl yn Ysgol Bryncelynog ac fe ddechreuais drin gwallt pan oeddwn yn 10 oed. Fe adewais yr ysgol yn 15 oed a dechrau gweithio yn y busnes teuluol. Rydw i wedi bod yn gweithio yno bellach ers 30 mlynedd! Pobl fusnes, athrawon, meddygon, deintyddion a chyfrifwyr yw ein cwsmeriaid yn bennaf.

"Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr hyfforddiant cywir. Mae llawer o gwmnïau trin gwallt yn cael eu sefydlu, ond nid ydyn nhw wedi cael yr hyfforddiant gorau. Felly, gall hyn fod o fantais i chi."

Anna Constantinou - Constantinuous

Fe wnaeth fy nheulu fy annog a fy hyfforddi. Mae elfen greadigol amlwg i fy ngwaith, ac rwy'n mwynhau bod yn rhan o hyn.

Mae'r busnes wedi ehangu ac mae gennym 12 ledled Cymru a hyd yn oed un yn Llundain erbyn hyn, ac mae 4/5 o bobl yn gweithio yno. Rydyn ni wedi dysgu wrth fynd yn ein blaenau.

 

Mae'r anawsterau yr ydym wedi'u hwynebu wedi cynnwys problemau ariannol oherwydd yr economi a'n lleoliad yng nghanol y ddinas sydd wedi achosi straen.

Fodd bynnag, rydyn ni wedi dysgu sut i ymdopi ac mae wedi bod o fudd o ran dysgu a gwybodaeth.