April Prince and the Glitterbomb robots
April Prince
Glitterbomb
Trosolwg:
  Uchelgais April Price yw bod yn beiriannydd Formula 1 ond cyn hynny mae hi wedi herio rhai o ryfelwyr robot mwyaf brwd y byd wrth eu gêm eu hunain
Rhanbarth:
Wrecsam

April, egin beiriannydd un ar ddeg mlwydd oed, yn dod yn ôl o gystadleuaeth rhyfel robot Tsieineaidd gyda’i robot ‘Dragon Princess’

 

Uchelgais April Price yw bod yn beiriannydd Formula 1 ond cyn hynny mae hi wedi herio rhai o ryfelwyr robot mwyaf brwd y byd wrth eu gêm eu hunain

 

Mae April Price, un ar ddeg mlwydd oed o Wrecsam, wedi datblygu cariad angerddol tuag at beirianneg a roboteg.  Daeth yn ôl yn ddiweddar o Tsiena ar ôl bod ar sioe Clash Bots, un o hoff raglenni’r wlad, sy’n cael ei ffrydio ar lein a channoedd o filoedd o bobl yn ei gwylio bob wythnos.

 

Wrth gystadlu ar Clash Bots, sy’n debyg i Robot Wars y Deyrnas Unedig, dangosodd April, am y tro cyntaf, ei robot 'Dragon Princess' o’i gwaith hi ei hunan.  Hwn yw'r robot diweddaraf yn ei chasgliad a ddechreuodd gyda'r peiriant bwyell binc 'Glitterbomb', a yrrodd y cyfryngau cymdeithasol yn benwan ar ôl iddo ymddangos ar Robot Wars y DU yn 2016.

 

I ddechrau, dyluniodd April y robot Dragon Princess gyda phapur a phensil ac yna ei fodelu gyda bwrdd ewyn arlunwyr a chreu maquette 3D llawn. Wedyn, roedd y rhain yn cael eu defnyddio i greu’r dyluniadau cyfrifiadurol 2D a 3D i brofi gwytnwch ac i gynhyrchu’r robot, sy’n cael ei wneud o ddur milwrol.

 

 Mae April hefyd yn argraffu llawer o rannau o’r robot mewn 3D, ac mae’n gwybod sut i adeiladu a thrwsio’r rhannau a hi sy’n cynnal a chadw'r gwifrau a'r batri. Yr unig ran o’r broses nad yw April yn ei gwneud ei hunan yw’r weldio a thorri’r dur gan ei bod yn cael ei hystyried yn rhy ifanc i wneud hynny ar hyn o bryd ac, yn lle hynny, mae hi'n goruchwylio'i thad James wrth y gwaith.

 “Rwyf wrth fy modd gyda’r broses o ddylunio a chynhyrchu robotau newydd ac mae cael fy ystyried yn fodel rôl i ferched yn STEM yn rhywbeth sy’n eithriadol o gyffrous i mi. Nid rhywbeth mae’r bechgyn yn unig yn ei wneud yw peirianneg, mae yna gymaint o gyfleoedd i ferched sydd â diddordeb yn y pynciau. Does gen i ddim syniad pam nad yw rhagor o ferched yn dilyn gyrfaoedd mewn STEM, ond efallai bydd fy mhrofiadau i yn ysbrydoli rhagor ohonom i gymryd rhan!"

 

 Mae estheteg gyffredinol ei chreadigaeth yn bwysig iawn i April, mae’n cyflwyno ei robot mewn ffordd luniaidd iawn, ac mae hynny hefyd yn wir am ei dillad ymladd. Mae April yn gweithio gyda’i mam, Rachel i greu elfen tywysoges y ddraig robot ac mae Rachel hefyd yn ei helpu gyda’r elfennau ddreigaidd sydd yng ngwisg hardd April ei hunan.

 

Er ei bod mor ifanc, mae April, sy’n astudio yn Ysgol Gynradd St Giles, wedi bod yn annog merched mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ac mae’n awyddus i rannu ei phrofiadau ei hunan gyda merched ifanc eraill i gynyddu eu hyder nhw a dilyn pynciau STEM, lle mae bechgyn mor amlwg, a dilyn gyrfaoedd, neu hyd yn oed sefydlu’u cwmnïoedd eu hunain, yn y sector.

 

Nid yn unig mae April wedi ymddangos ar Robot Wars a Clash Bots ond mae hefyd wedi  bod ar Newsround ac wedi gweithio gyda nifer o frandiau yn hyrwyddo’u cynnyrch megis BBC Micro:bit, meddalwedd Autodesk Fusion 360 CAD ac argraffyddion 3D Lulzbot.

 

 Mae hefyd wedi siarad yn Techniquest Glyndŵr ac yn Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yn Llundain, ble mae wedi ennill gwobrau fel model rôl fenywaidd.  Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau yn Makerversity yn Somerset House.

 

 Ar 3 Gorffennaf, mae April wedi cael ei gwahodd i siarad yn rownd derfynol Cystadleuaeth Ysgolion Cynradd Cenedlaethol y Criw Mentrus yng Nghaerdydd.  Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn cael ei rhedeg gan Syniadau Mawr Cymru - rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru sy’n dod â phlant 5 - 11 mlwydd oed at ei gilydd o bob rhan o Gymru. Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan  yn ymuno â’i gilydd mewn timoedd i greu ac i redeg eu mentrau eu hunain, gan werthu cynnyrch neu wasanaethau o’u dewis nhw yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.

 

Gofynnwyd i April gymryd rhan yn nigwyddiad y Criw Mentrus gan fod yr hyn mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn yn enghraifft berffaith o’r ymddygiad sydd, ym marn Llywodraeth Cymru, yn greiddiol i lwyddiant entrepreneuraidd – agwedd, creadigedd, perthynasau a threfn. Gobaith y trefnwyr yw y bydd llwyddiant April yn ysbrydoli pobl ifanc fentrus eraill i fynd i mewn i’r gweithle gyda dychymyg a thalent.

 

 Un peth efallai, sy’n ysbrydoli ei chariad at beirianneg roboteg, yw bod April wrth ei bodd gyda chwaraeon modur, yn rasiwr gwibgart brwdfrydig ac mai ei huchelgais yw bod yn beiriannydd Fformiwla 1 pan fydd hi’n hŷn, yn ddelfrydol i Mercedes, ei hoff dîm.

 

Mae April wedi gwirioni gymaint ar Mercedes nes ei bod hyd yn oed wedi treulio’r penwythnos diwethaf yn ffatri cyrff Mercedes yn Swydd Rhydychen fel rhan o'r rhaglen Dare to be Different, menter sy'n anelu at ysbrydoli, cysylltu a dathlu merched sy'n gweithio ym mhob agwedd o chwaraeon modur.

 

Wrth sôn am ei chariad at beirianneg, meddai April: “Roedd cystadlu yn Tsiena yn freuddwyd ac mi wnaeth fy mherfformiad yno cynyddu fy awydd i greu rhagor o robotau a chystadlu mewn rhagor o gystadlaethau.

 

“Rwyf wrth fy modd gyda’r broses o ddylunio a chynhyrchu robotau newydd ac mae cael fy ystyried yn fodel rôl i ferched yn STEM yn rhywbeth sy’n eithriadol o gyffrous i mi. Nid rhywbeth mae’r bechgyn yn unig yn ei wneud yw peirianneg, mae yna gymaint o gyfleoedd i ferched sydd â diddordeb yn y pynciau. Does gen i ddim syniad pam nad yw rhagor o ferched yn dilyn gyrfaoedd mewn STEM, ond efallai bydd fy mhrofiadau i yn ysbrydoli rhagor ohonom i gymryd rhan!"

 

Meddai James, tad April: “Rydym yn cefnogi pob agwedd o hynt a helynt April ac wrth ein bodd yn ei gweld yn cyflawni ei huchelgeisiau. Yr hyn sy’n mynd â’i bryd y dyddiau yma yw creu robotau a chystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol ac mae hynny'n rhywbeth rydyn ni fel teulu'n mwynhau bod yn rhan ohono.

 

“Mae’i pherthynas â phynciau STEM a’i huchelgeisiau mewn peirianneg i’w hedmygu ac rydyn ni’n falch iawn o’i hyder a phenderfyniad. Pwy a ŵyr beth sydd ar y gorwel ond byddwn yn ei chefnogi bob cam o’r ffordd.”

 

 Mae yna o leiaf un bennod arall yn anturiaethau roboteg April.  Y flwyddyn nesaf mae’n gobeithio teithio i America i gymryd rhan mewn cystadlaethau yno, megis y digwyddiad robotau mwyaf yn y byd, Robogames, a Battlebots, sgil gangen yr Unol Daleithiau o'r fasnachfraint Robot Wars. A chyda’i robot newydd eisoes yn y cyfnodau datblygu cynnar, mae’n llawn gobaith am ei hanturiaethau yn y Unol Daleithiau.

 


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am STEM a sut i gymryd rhan, cliciwch yma