Mae Becky yn aelod graddedig o’r Sefydliad Allforio ac yn ieithydd cymwysedig ag angerdd at fasnach ryngwladol. Yn 2005 adleoliodd Becky i Ogledd Cymru a phenderfynodd sefydlu ei busnes ei hun sef y cwmni a welir heddiw. Mae’n gweithio gyda chwmnïau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac mae’n dwlu ar amrywiaeth y prosiectau y mae ganddi’r fraint o weithio arnynt. Ers llawer o flynyddoedd mae Becky wedi derbyn cymeradwyaeth i gyflenwi mentrau a ddarperir gan yr Adran dros Fasnach Ryngwladol (Masnach a Buddsoddi’r Deyrnas Unedig gynt) yn Lloegr ar ôl cyflenwi cymorth mentora a hyfforddiant i lawer o gwmnïau yn rhan o’u rhaglen flaenllaw Pasbort i Allforio. Mae ganddi brofiad o weithio fel gweithiwr llawrydd gyswllt gan gyflenwi cymorth i gwmniau sy’n ymgysylltu â’r rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol yng Nghymru. Erbyn hyn mae Becky’n cyflenwi cyrsiau hyfforddiant achrededig ar ran Siambrau Masnach Prydain. Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr gydnabyddiaeth iddi ar gyfer Allforio a Masnach Ryngwladol gan Siambr Fasnach Gorllewin Caer a Gogledd Cymru. Ar sail breifat, mae Becky’n gweithio ar brosiectau hir dymor a thymor byr yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae hefyd yn fodel rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru - sef rhaglen i annog entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifainc yng Nghymru. Mae Becky wedi casglu gwledd o brofiad ym maes masnach ryngwladol a’i chenhadaeth yw rhannu hyn, ynghyd â’i brwdfrydedd am y byd allforio ac ieithoedd, gydag allforwyr ac ieithyddion heddiw a’r dyfodol.