Rwy’n Gyfarwyddwr a Phrif Hyfforddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol Surfability UK. Dyma’r unig ysgol syrffio yng Nghymru ar gyfer pobl anabl yn unig.
Dechreuodd yn 2013 ac yn ymdrechu’n gyson i fod yn fwy cynhwysol. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda 30 – 50 o bobl yr wythnos, gydag amrywiaeth anferth o anghenion ychwanegol.
"Cymerwch gyngor ond peidiwch â gwrando ar negatifedd. Cewch chi siapio’r byd a chwalu rhwystrau."
Ben Clifford - Surfability UK CIC
Ces i fy magu ym Mryste ar ymyl ystâd tai cyngor arw; roedd yr ysgol roeddwn i’n ei mynychu yn methu. Roeddwn i’n benderfynol o ddianc.
Llwyddodd gadael yr ysgol a mynd i’r coleg i ehangu fy ngorwelion o ddifrif, a ches i ddigon o safonau A i ymerstru ym Mhrisysgol Abertawe. Tra roeddwn i yno, dechreues i syrffio ac yn nes ymlaen hyfforddi syrffio.
Dechreues i weithio gyda phobl anabl drwy wirfoddoli yna ehanges i fy sgiliau trwy weithio mewn addysg arbennig. Cynhalies i wersi syrffio addasol drwy ysgol syrffio brif ffrwd, a bu’r rhain mor llwyddiannus bod angen gwasanaeth arbenigol arnyn nhw cyn bo hir felly dechreues i Surfability.
Yn ddiweddar rwy wedi bod yn rheolwr tîm i dîm syrffio addasol Cymru. Mae mor fendigedig datblygu’r chwaraeon rwy’n ei garu ar lefel sylfaenol a lefel elitaidd.
Bu’n rhaid wrth amynedd, dealltwriaeth, a dyfalbarhad.
Cysylltu gyda Ben