bootcamp
Bŵtcamp i Busnes
Trosolwg:
Entrepreneuriaid ifanc mwyaf disglair Cymru yn datblygu 'syniadau mawr' yn ddigwyddiad Bŵtcamp y cymoedd

Treuliodd dros hanner cant o entrepreneuriaid ifanc o bob rhan o dde Cymru'r penwythnos diwethaf (16-18 Tachwedd) mewn digwyddiad tridiau preswyl dwys a gynlluniwyd i roi sgiliau hanfodol iddynt hwy i gyflawni eu breuddwydion busnes.

 

Roedd digwyddiad ‘Bŵtcamp i Fusnes’ Syniadau Mawr Cymru yng Nghanolfan Summit Rock UK, Treharris, yn agored i bobl ifanc o 18 i 25 oed.

 

Aeth pob un o'r rhai a fynychodd drwy broses gyfweld cyn iddynt gael lle yn y Bŵtcamp, lle y gwnaethon nhw wario'r penwythnos gyda phobl fusnes sefydledig yng Nghymru a chyn ‘Bŵtcampwyr’ sydd wedi mynd ymlaen i redeg busnesau llwyddiannus eu hunain.

 

Roedd y digwyddiad tri diwrnod, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (12-18 Tachwedd) yn cynnwys cyfres o weithdai busnes gyda’r nod o ehangu gwybodaeth yr entrepreneuriaid ifanc, tyfu eu rhwydwaith o gysylltiadau ac yn y pen draw yn eu helpu i lansio eu busnes.

 

Teithiodd y bobl ifanc o bob cwr o Gymru i fynychu, y mwyafrif ohonynt yn fyfyrwyr israddedig ym mhrifysgolion Cymru. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y grant Entrepreneuriaeth Ieuenctid, bydd yn gweld myfyrwyr yn elwa o arian Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf, yn galluogi prifysgolion a cholegau i fagu entrepreneuriaeth myfyrwyr a chryfhau cysylltiadau, yn enwedig gyda phartneriaid megis Syniadau Mawr Cymru, i gefnogi myfyrwyr ar eu ffordd i ddechrau busnes.

 

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Mae'n wych gweld carfan mor dalentog o entrepreneuriaid yn dod ynghyd i adeiladu ar eu gwybodaeth a chryfhau eu syniadau busnes. Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd ac rwyf wedi bod yn glir bod yn rhaid i ran bwysig o hynny fod yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y gefnogaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i gymryd y camau cychwynnol i lwyddiant.

 

"Mae nifer y myfyrwyr sy'n mynychu Bootcamp eleni yn dyst i'r timau Entrepreneuriaeth ysbrydoledig yn ein colegau a'n prifysgolion, gyda'r cyfle rhagorol hwn i fyfyrwyr ennill hyder, dysgu oddi wrth eu gilydd a thynnu ar brofiad gwerthfawr entrepreneuriaid o Gymru sy'n bresennol. "

 

Roedd entrepreneuriaid ifanc sydd wedi bellach ymgysylltu â Syniadau Mawr Cymru ac wedi mynd ati i ddechrau busnes hefyd yn bresennol i rannu eu profiadau gyda'r grŵp newydd. Er enghraifft Callum Griffiths, 19 oed o Ynysybwl sydd yn gyfarwyddwr Grŵp Fferm Clydach. Ers defnyddio gwasanaethau Syniadau Mawr Cymru, mae Callum wedi mynd ymlaen i sefydlu busnes maeth anifeiliaid a dofednod sy'n allforio ledled y byd o gymoedd de Cymru ac yn cyflogi tîm o 12 ar draws y cwmni. Canfu Callum ei brofiad gyda Syniadau Mawr Cymru mor fuddiol ei fod wedi dod yn Fodel Rôl er mwyn trosglwyddo ei wybodaeth a'i sgiliau i'w gyfoedion.

 

Dywedodd: "Mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn allweddol yn fy siwrnai busnes. Yn wir, roedd yn gyflwyniad roeddwn i'n gwylio yn 15 oed o Fodel Rôl arall John Bell yn Ysgol Uwchradd Pontypridd a ysbrydolodd fi i droi fy uchelgeisiau busnes i mewn i realiti. Rwy'n falch fy mod yn gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth i'm cyfoedion nawr."

 

Dyfarnwyd gwobrau i ddau o westeion Bŵtcamp am eu hymdrechion, gan gynnwys Mollie Williams, 18, cyn-fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe gyda busnes harddwch, a enillodd wobr am ei hunanddatblygiad yn ystod y Bŵtcamp. Derbynodd Liam Purnell, 22, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â busnes marchnata digidol wobr 'Bŵtcamper y Penwythnos' a enwebwyd gan ei gyfoedion.

 

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed a hoffai ddatblygu syniad am fusnes.

 

 

Ydych chi'n barod i ddechrau busnes? Gwnewch gais am y Bootcamp nesaf yma