Callum Griffiths
Clydach Farm
Trosolwg:
Busnes bwyd anifeiliaid ac ieir
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Golygon entrepreneur ieir ifanc a brwdfrydig ar y farchnad tramor

Mae entrepreneur 18 mlwydd oed o Ynysybwl, a ddechreuodd ei fusnes yn 13 oed gyda dim ond dwy iâr, wedi mynd ymlaen i ddatblygu busnes bwyd anifeiliaid ac ieir, sy’n tyfu’n gyflym.

Yn disgrifio ei hun fel entrepreneur sydd wedi ‘dysgu drwy brofiad’, sefydlodd Callum Griffiths, cyfarwyddwr Clydach Farm Group, ei fenter busnes gyda dwy iâr oedd piau ei deulu, eu bridio ac yna’n gwerthu’r cywion i brynu’i ddeorydd cyntaf.

 

 Tyfodd Callum ei fusnes yn raddol wrth astudio ar gyfer TGAU.  Erbyn hyn mae gan y cwmni dros 1,500 o ieir ac mae ganddo hefyd adran bwyd anifeiliaid anwes sy’n allforio i wledydd gan gynnwys Ffrainc, Romania a Sbaen.

 

Mae Callum yn cyflogi tîm bychan o 12 o bobl, gyda rhai o’i deulu yn benaethiaid ar adran ieir ei gwmni, sydd wedi gadael  Callum yn rydd i ganolbwyntio ar yr ochr bwyd anifeiliaid anwes. Erbyn hyn, dyma sy’n gwerthu orau yn y cwmni.

 

Meddai Callum: “Pan oeddwn yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy hun yn gyfan gwbl i'r busnes ac roeddwn i’n gorfod jyglo fy addysg a'r busnes. Ond, gyda llawer o ymdrech ac ymrwymiad, fe lwyddais i gael y ddau i ryw fath o gydbwysedd, ac, mewn gwirionedd tyfodd y busnes 150% flwyddyn ar ôl blwyddyn nes i mi adael yr ysgol yn 16 oed.

 

“Roedd fy nheulu a ffrindiau’n meddwl fy mod yn wallgof i roi’r gorau i’m haddysg a gwthio ymlaen gyda’r busnes heb unrhyw fuddsoddiad neu gefnogaeth, ond mae’n risg sydd wedi talu ar ei ganfed. Hyd heddiw, dyw Clydach Farm wedi derbyn unrhyw fuddsoddiad allanol ac rydyn ni wedi gallu ei throi’n gyfan gwbl organig.”

 

Ond nawr, mae Callum ar ei ffordd yn ôl i’w gyn ysgol uwchradd.  Mae’n newid rheoli'i fusnes dofednod i fod yn fentor yn y dosbarth fel Model Rôl Syniadau Mawr Cymru.

Aeth Callum yn ei flaen: “”Ro’n i eisiau dod yn Fodel Rôl er mwyn i bobl ifanc eraill ddod i ddeall ei bod yn iawn wneud rhywbeth gwahanol. Mae’n grêt siarad gyda phobl yn eu blynyddoedd olaf mewn addysg sydd efallai’n meddwl beth i'w wneud nesaf a'u cael nhw i ddeall ei bod hi'n iawn cymryd risg ac ymddiried ynoch chi'ch hun.

 

Derbyniodd Callum fentora busnes pan oedd yn ddim ond 15 mlwydd oed gan ei gyd Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru a datblygwr eiddo, John Bell, oedd yn awyddus i annog egin entrepreneuriaid ifanc eraill ar eu teithiau busnes eu hunain.

 

Wrth sôn am lwyddiant Callum, meddai John: “Mae Callum yn batrwm o’r math o entrepreneur rydym ni ei angen yng Nghymru. Nid ar chwarae bach mae cymryd risg, ac ni pawb sy’n gallu gwneud hynny gan fyw bywyd ‘petai a phetasai'. Ond, yn y pendraw, does neb yn gallu’ch beio am ymdrechu nac am ddysgu drwy eich camgymeriadau wrth wneud hynny. Rwyf mor falch fod risg Callum wedi talu a'i fod yn ffynnu fel entrepreneur ifanc."

 

Mae Callum yn bwriadu ehangu’i fusnes ymhellach trwy allforio i farchnadoedd tramor eraill gan gynnwys Hong Kong, Singapore ac Asia.

 

 Yn y tymor hirach, mae Callum yn ystyried agor safle fân-werthu gyntaf Clydach Farm a hyd yn oed fentro i fyd bwyd a diod maethlon i bobl.

 

Meddai: “Pan ddechreuais y busnes pum mlynedd yn ôl, roeddwn yn ymwybodol iawn nad oeddwn i ond 13 mlwydd oed ac y byddai’n anodd ennyn ymddiriedaeth darpar gwsmeriaid a’u cael i’m cymryd o ddifrif ac fel person busnes go iawn.

 

“Ond, ar ôl ychydig o flynyddoedd ar fy nhaith busnes mae’r derbyniad rwy’n derbyn yn wahanol iawn. Rwy’n cael fy nhrin fel person cyfartal. Rwy’n meddwl fod entrepreneuriaid ifanc yn cael eu derbyn yn well nawr nag erioed o'r blaen. Does dim byd i atal rhywun rhag dechrau eu busnes eu hunain ac ni ddylai oedran byth fod yn rhwystr. Yn y pendraw rydych yn cael allan beth rydych yn ei roi i mewn – ai yn eich arddegau neu’n entrepreneur wedi hen sefydlu. Mae’n golygu cael yr agwedd iawn a gweithio’n galed.”


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!