Carol Harris
Carol Harris
Management Magic
Trosolwg:
Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a chyflawni eu hamcanion – drwy hyfforddi, mentora busnes ac ysgrifennu llyfrau am fusnes a llyfrau addysgol.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Powys

Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a chyflawni eu hamcanion – drwy hyfforddi, mentora busnes ac ysgrifennu llyfrau am fusnes a llyfrau addysgol.

Dechreuais fel gweithiwr, yn gwneud ymchwil, darparu hyfforddiant a gwasanaeth eirioli, ac yna symudais ymlaen i redeg amrywiol fusnesau ar fy liwt fy hun. Roedd un yn darparu gweithiau celf i gwmnïau, un arall yn asiantaeth gyflogaeth ar gyfer radiograffwyr ac yn ddiweddarach dechreuais fusnes arall - Management Magic, sy’n arbenigo mewn darparu hyfforddiant, gwasanaeth ymgynghori a hyfforddi ar sail NLP (Rhaglennu Niwroieithyddol). Sefydlais Pentre Publications hefyd, i gyhoeddi cylchgrawn ar gyfer ymgynghorwyr yn wreiddiol ac, yn ddiweddarach, i gyhoeddi rhai o fy llyfrau fy hun. Rwyf wedi cyhoeddi nifer o lyfrau dros yr ugain mlynedd diwethaf - y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â busnes, ond hefyd ar bynciau eraill megis cadw moch, coginio a chyfres o lyfrau addysgol i blant. Ers 2003 fy mhrif fusnes yw marchnata ar y rhwydwaith, lle rwy’n hyfforddi ac yn mentora pobl sydd wedi sefydlu busnesau yn eu cartrefi dan ymbarél cwmni byd-eang ym maes iechyd a maeth. Mae fy ngyrfa wedi esblygu, yn hytrach na chael ei chynllunio, ac mae’n rhaid i mi wneud amrywiaeth o weithgareddau i gadw mewn cysylltiad â’r byd gwaith. Mae dysgu’n bwysig iawn i mi, ac rwy’n gweithio orau pan fyddaf yn rheoli fy ngweithgareddau ac yn gweithio at ganlyniad rwy’n frwdfrydig yn ei gylch.

Fy sectorau:

  • Hyfforddi a hyfforddi
  • Iechyd a maeth
  • Ysgrifennu a chyhoeddi
  • Mentora busnes

Yn fy amser hamdden rwyf wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys magu moch, beirniadu cŵn Affgan, dysgu cleddyfaeth a chwarae Taiko (drwm Japaneaidd).