Caroline Challenor
Caroline Challoner
Cazbah Ltd
Trosolwg:
Cwmni marchnata, digwyddiadau ac ymchwil
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydyn ni'n gwmni marchnata, digwyddiadau ac ymchwil yng Nghymru ac mae gan ein tîm sgiliau a phrofiad o bob maes cyfathrebu. Rydyn ni'n credu mai gwrando yw'r sgil cyfathrebu pwysicaf. Cyn awgrymu unrhyw beth, byddwn yn eistedd gyda chi ac yn gwrando ar eich anghenion, eich nodau a'ch amcanion.

"Peidiwch â meddwl bod yn rhaid i chi fod yn arbenigwr ym mhob maes busnes. Datblygu sgiliau arwain da sy'n bwysig, yn ogystal â defnyddio sgiliau pobl eraill yn llwyddiannus wrth ichi ddatblygu eich cwmni."

Caroline Challoner - Cazbah Ltd

Pan oeddwn yn 18 oed, cefais fy ysbrydoli gan fenyw oedd yn entrepreneur am y posibilrwydd o fod yn berchen ar fy nghwmni fy hun, a dyna oedd fy mreuddwyd fyth ers hynny. Fe weithiais yn galed mewn nifer o sectorau i ennill profiad o wahanol fusnesau a sefydliadau, nes imi gael cyfle yn ELWa.

Yr adegau pan ydym wedi colli cyfleoedd busnes o drwch blewyn yw'r prif rwystrau yr ydw i wedi'u hwynebu.

Rydyn ni wedi defnyddio'r profiadau yma mewn modd cadarnhaol ac rydyn ni bob amser yn gofyn am adborth beirniadol i geisio gwella'n barhaus.

Mae ganddon ni sefydliad rhithwir sy'n mynd o nerth i nerth. Rydyn ni eisoes wedi arallgyfeirio a byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd newydd ar gyfer y busnes.