Proffil Personol
Hyfforddwr Bywyd Ardystiedig, Therapydd Ymddygiad Gwybyddol Lefel 5 ac Ymarferydd Niwro Ieithyddol gydag 20 mlynedd o brofiad, gan weithio gydag unigolion preifat, perchnogion busnes, aelodau o’r gymuned LGBTQA+, yn ogystal â gweithio gyda chleientiaid chwaraeon proffesiynol, sêr teledu a llawer mwy.
Beth ydw i’n ei wneud
Rwy’n helpu unigolion gyda’r canlynol:
- Hunan-werth
- Hyder a thwf
- Pendantrwydd
- Adnabod sbardunau
- Dysgu dulliau sy’n helpu i gael gwared ar straen
- Dysgu dulliau gwahanol a fydd yn eich helpu i ymdopi â gorbryder a’i reoli
- Trawsnewid ymddygiad drwy weithredu
- Adeiladu’r bywyd rydych chi ei eisiau
Mae hyfforddiant yn ceisio cyflawni'r canlynol:
- Ail-raglennu eich ffordd o feddwl
- Sgwrsio agored a gonest
- Nodi gwerthoedd personol
- Cynllun hyfforddi pwrpasol
- Hunanymwybyddiaeth
- Technegau meddwl yn gadarnhaol
- Deall sut mae profiadau o’r gorffennol yn gallu effeithio ar deimladau a chredoau presennol
- Herio a newid meddyliau negyddol di-fudd
- Newid patrymau meddwl, agwedd ac ymddygiad, gan alluogi cleientiaid i gyflawni patrwm meddwl cadarnhaol newydd
- Goresgyn ffobias
Crynodeb
Rwy’n frwd dros helpu pobl i oresgyn materion sy’n eu dal yn ôl, er mwyn iddynt allu profi gwir hapusrwydd mewnol a chyrraedd yr holl nodau a ddymunir yn eu bywyd personol a phroffesiynol.