Christopher Stronge - The Role Model
Christopher Stronge
Equine Lens
Trosolwg:
Darparu printiau ffotograffig a ffeiliau am geffylau rasio i berchenogion ceffylau rasio ar ffurf celfyddyd gain
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Sefydlwyd Equine Lens i ddarparu printiau ffotograffig a ffeiliau am geffylau rasio i berchenogion ceffylau rasio, a hynny ar ffurf celfyddyd gain. Rydw i wedi tynnu lluniau llawer o’r ceffylau rasio gorau yn y byd ac rydw i wedi gweithio gyda sefydliadau a ffigurau adnabyddus yn y diwydiant, fel Weatherbys a Coolmore. Mae fy ngwaith yn cael ei ddangos yn benodol i berchenogion a hyfforddwyr mewn rasys ceffylau mawr yn y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon, gan gynnwys y Grand National yn Lloegr a Gŵyl Punchestown yn Iwerddon. Rydw i’n ddarlithydd celfyddydau creadigol cymwysedig ac rydw i wedi datblygu rhaglen therapi sy'n seiliedig ar gelf ac sy'n meithrin creadigrwydd a sgiliau meddwl yn feirniadol. Nod y rhaglen yw helpu unigolion a sefydliadau i wireddu eu potensial.

 

Cefais fy syniad busnes wrth chwilio am ffordd o gynyddu'r incwm roeddwn i’n ei gael o ffotograffiaeth. Roeddwn i’n credu, ymhen amser, y gallwn i ddefnyddio fy adnoddau a fy nhalentau i greu ffurf unigryw ar ffotograffiaeth ceffylau. Roeddwn i’n adnabod perchennog fy ysgol farchogaeth yn dda a gadawodd i mi ddefnyddio ei arena dan do a’i geffylau i ddatblygu fy ngwaith. Rhoddais sawl cynnig arni cyn roeddwn i’n fodlon bod gen i rywbeth y gallwn i ei werthu. Pan oeddwn i’n datblygu fy nghynnyrch, gofynnais am gymorth gan fy athro celf, Weatherbys a llawer o bobl eraill er mwyn mireinio fy nghynnyrch a fy ngwasanaeth. Rydw i o blaid gofyn i’r bobl iawn am help ac arweiniad. Does dim byd i’w golli, ond byddwch yn elwa’n fawr.

 

Pan gollais i fy swydd, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi geisio dod o hyd i ffynhonnell arall o incwm. Roeddwn i’n awyddus i greu busnes a allai greu incwm. Roeddwn i hefyd yn awyddus i fireinio’r sgiliau oedd gen i a dysgu sgiliau newydd.

Mae’n rhaid i chi gael pobl gadarnhaol o’ch cwmpas, a pheidiwch â gwrando ar y rheini sy’n eich bychanu chi. Rhaid i chi wneud eich gorau glas a chredu eich bod chi ar y ddaear am reswm. Ewch amdani!

 

Ar ôl edrych ar ffotograffiaeth ceffylau, penderfynais fod cyfle posibl yn y maes hwnnw. Felly, fe wnes i osod brîff heriol i mi fy hun a fyddai’n arwain, gobeithio, at rywbeth y gallwn i fod yn falch ohono. Astudiais hanes peintio ceffylau ac edrych ar waith artistiaid ceffylau gorau’r byd, fel Theodore Gericault a George Stubbs. Fe wnes i ddilyn fy mreuddwyd, a dylech chithau wneud yr un fath.

 

 

Roedd yn rhaid i mi oresgyn sawl rhwystr technegol yn ystod y camau datblygu. Pan oeddwn i’n fodlon ar y cynnyrch, roedd yn rhaid i mi fagu digon o hyder i siarad â rhai o ffigurau blaenllaw y diwydiant, pobl a allai helpu i wneud gwahaniaeth. Ar ôl i mi gael sylfaen gan y bobl hyn, roeddwn i’n gallu sefydlu fy hun yn y diwydiant, sy'n ddiwydiant ceidwadol iawn. Mae gen i lawer o heriau i’w goresgyn a phobl i’w hargyhoeddi o hyd cyn y byddaf wedi sefydlu brand Equine Lens yn y diwydiant.

 

Gan fy mod i'n fos arnaf i fy hun, rydw i’n gallu cwrdd â phobl ddiddorol ac yn gallu tynnu lluniau rhai o geffylau rasio gorau’r byd. Rydw i’n darparu gwasanaeth mae pobl yn fodlon talu amdano ac rydw i wir yn mwynhau’r hyn rydw i’n ei wneud.

 

Mae’n rhaid i chi gael pobl gadarnhaol o’ch cwmpas, a pheidiwch â gwrando ar y rheini sy’n eich bychanu chi. Rhaid i chi wneud eich gorau glas a chredu eich bod chi ar y ddaear am reswm. Ewch amdani!