Dafydd Hardy ffoto
Dafydd Hardy
Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy
Trosolwg:
Gwerthu, Gosod, Rheoli Eiddo, Masnachol ac Anghenion Tirfesur
Sectorau:
Gwasanaethau Rheoli Preswyl
Rhanbarth:
Gwynedd

Gadewais yr ysgol yn 16 oed ac ymuno â Chwmni o Syrfewyr Siartredig fel prentis. Ar ôl pasio arholiadau cychwynnol y proffesiwn mi es i’r coleg yn Sheffield i astudio’n llawn amser gan fod mod yn siŵr mai hwn oedd y proffesiwn i mi. Mi wnes gymhwyso fel syrfëwr yn 1977 ac ers hynny rwyf wedi cael amryw o swyddi’n gysylltiedig ag eiddo yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Yn y diwedd, ar ôl llawer o bendroni, mi sefydlais fy musnes fy hun yn 1982 ac yna yn 1987 mi werthais y busnes i Prudential Property Services gan weithio iddynt fel Cyfarwyddwr Ardal yn rheoli 25 o swyddfeydd ar hyd arfordir y Gogledd, Caer a Chilgwri. Yn 1992 mi wnes ailafael yn y busnes gyda fy nghyd-gyfarwyddwr Richard Thomas ac mi oedd y busnes yn dathlu ei ben blwydd yn 25 oed yn ddiweddar. Rydym yn cyflogi 60 o staff ac mae gennym 5 swyddfa yn y Gogledd Orllewin ac rydym yn gobeithio ehangu ar yr hyd yr arfordir i gyfeiriad Caer yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Mae sawl peth positif o ran gweithio i chi eich hun, a rhai pethau negyddol hefyd, ac felly rydych angen angerdd, brwdfrydedd a threfn yn ogystal â moeseg gwaith cryf iawn; ni fydd pethau byth yn digwydd ohonynt eu hunain, rhaid i chi wneud iddynt ddigwydd!