David Fildes
DFS4 Ltd
Trosolwg:
Ymgynghorydd busnes ar wella Gwerthiannau i BBaCh yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Cymru cyfeillgar, sy’n siarad yn blaen.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Ymgynghorydd busnes ar wella Gwerthiannau i BBaCh yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Cymru cyfeillgar, sy’n siarad yn blaen. Ar ôl llwyddo i werthu fy musnes diwethaf, rwyf yn awr yn cychwyn ar fenter newydd. Rwy’n dymuno cynorthwyo BBaCh yng Ngogledd Cymru, Cilgwri a Swydd Gaerlleon trwy roi cyngor cadarn a chymorth YMARFEROL i gynyddu eu graddfeydd trosi gwerthiannau a chael effaith ar eu llinell waelod. Rwyf yn deall pa mor unig ac ynysig y gallai deimlo pan eich bod yn ceisio dechrau busnes newydd. Mae hefyd gennyf brofiad o fod yn destun arbenigedd ymgynghorwyr nad ydynt erioed wedi gweithio i fusnes bach na rhedeg un. Rwy’n fentor i Fusnes Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog a Siambr Fasnach Cilgwri. Rwy’n fodel rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru ac rwyf hefyd yn rhan o Rwydwaith Entrepreneuriaid Busnes yng Nglannau Dyfrdwy gan helpu busnesau newydd i ddechrau. Rwy’n meddu ar HND mewn Astudiaethau Busnes ac rwy’n Gydymaith y Sefydliad Gwerthiannau a Rheoli’r Farchnad. Rwyf wedi dal swyddi fel rheolwr gwerthiannau rhyngwladol cenedlaethol a rhyngwladol gan arbenigo mewn darparu gwasanaethau TG a gwasanaethau i’r Sector Bancio. Rwyf wedi bod yn Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr gwirfoddol ar Bestin Properties ers dros 20 o flynyddoedd. Roeddwn yn rhan bwysig o ddechrau Radio Ysbyty yng Ngogledd Cymru. Rwyf wedi codi miloedd o bunnoedd dros y blynyddoedd ar gyfer nifer o elusennau ond i’r Tîm Achub Mynydd yn bennaf. Roeddwn yn rhan weithredol o Reilffordd Treftadaeth Llangollen. Gallaf gynyddu llinell waelod BBaCh trwy gyflenwi cyngor busnes YMARFEROL, EFFEITHIOL yn seiliedig ar dros 40 o flynyddoedd o brofiad go iawn. Byddaf yn cynorthwyo â Systemau, Trefnu a Gwerthiannau. Byddaf yn eich helpu i sefydlu neu i dyfu eich busnes.

Cofiwch ddefnyddio rhywun sydd wedi gwisgo’r crys T nid rhywun sydd wedi siarad amdano!