David Sansom
David Sansom
Gallery in The Square
Trosolwg:
Arddangosfa gelf sy’n gwerthu darnau traddodiadol ac yn arddangos gwaith artistiaid newydd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Dechreuodd fy musnes fel cwmni fframio lluniau bach ond cefais syniadau ar sut i ddatblygu ac adeiladu arno. Bellach, mae’n oriel gelf sy'n gartref i gasgliad mawr o gelf cyfnod, ac yn ofod cyfoes ar gyfer artistiaid newydd. Rydym yn trefnu arddangosfeydd, digwyddiadau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ar ran yr artistiaid yr ydym yn eu cynrychioli, a chleientiaid allanol ar eu liwt eu hunain.
 
Cymerwch gyngor gan unrhyw un posib, a pheidiwch â bod ofn ei ddilyn.
David Sansom - Gallery in The Square
 
Bu'r dirwasgiad yn anodd, gan ein bod ni’n marchnata cynnyrch moethus nad yw'n eitem hanfodol i’w brynu, ond rydym dal wedi llwyddo i ehangu i eiddo mwy. Rwyf wedi gwneud rhai camgymeriadau ar hyd y daith, a byddwn wrth fy modd petawn wedi talu fwy o sylw i’r cyngor da a gefais.