David Williams
David Williams
David Williams
Trosolwg:
Cyflenwi cynhyrchion wedi'u gwnïo i siopau milwrol
Sectorau:
Amddiffyn a Diogelwch
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Fe wnes i sefyll arholiadau Lefel O y Tystysgrif Addysg Genedlaethol ar ôl mynd i ysgol ramadeg, a dim ond mewn Mathemateg y llwyddais, er i mi basio'r pwnc gyda chlod.

Ar ôl gadael yr ysgol, fe weithiais mewn ffatri dur. Fe lwyddais i ennill Tystysgrif Uwch Genedlaethol mewn Cynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol drwy astudio cwrs mewn ysgol nos yn rhan-amser.

Mae cymaint o wybodaeth a chyfleoedd ar gael ar gyfer defnyddwyr busnes. Os ydych eisiau llwyddo, fe wnewch chi lwyddo! Fy rheol i bob amser yw "Os gallwch chi wneud hyn – mi fedra innau hefyd"

David Williams

Wedi imi golli fy swydd pan oeddwn yn 44 oed, cefais swydd uwch-reoli mewn cwmni oedd yn darparu cynnyrch ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe wnes i ddod o hyd i gornel benodol o'r farchnad ac fe ddechreuais weithgynhyrchu o fy ngarej a chyflenwi cynhyrchion bach wedi'u gwnïo i siopau milwrol.

 

Fe ddatblygais y busnes drwy agor dwy uned gynhyrchu yn cyflogi rhwng 12 a 15 o weithwyr, ac roedd gen i gynifer â 25 ar un adeg.

Dim ond fi oedd yn y busnes ar y dechrau, cyn imi fynd ati i gyflogi aelod arall o staff. Ymunodd fy mab â'r busnes ychydig wedi hynny. Dechreuais fy musnes yn y Pîl. Ar ôl 2 flynedd, roeddwn yn cyflogi 15 o bobl, a chynyddodd y nifer i 25 ychydig fisoedd yn ddiweddarach.