Dean Jenkins
Codez Academy
Trosolwg:
Helpu plant, myfyrwyr ac oedolion i wella eu cyfleoedd i ennill cyflogaeth trwy gyrsiau codio.
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerffili

Mae Dean wedi profi dyslecsia ar hyd ei oes. Yn 15 oed roedd ei oedran darllen ar lefel plentyn 8 oed. Enillodd swydd yn gosod lloriau ond collodd ei swydd ar ôl profi anaf i’w gefn, nifer o lawdriniaethau a pharlys dros dro. Mae ei stori yn un ysbrydoledig.

Mae Codez Academy yn rhoi’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd, datblygu eich gwybodaeth ddigidol,ac ychwanegu at eich presenoldeb ar-lein o’r dechrau un.  Maent yn cynnig amrywiol gyrsiau o Gyrsiau Nos Uwch i sesiynau personol unigol i bob oedran.