Deian Illtud ap Rhisiart
Cyfathrebu Mwndo Communication
Trosolwg:
Cwmni marchnata sy’n cynhyrchu ffilmiau hyrwyddo, yn dysgu pobl sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac sy’n cynnal ymgyrchoedd yn y cyfryngau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Cwmni marchnata yw Cyfathrebu Mwndo, sy'n cynnig gwasanaethau penodol yn amrywio o gynhyrchu ffilmiau hyrwyddo, hyfforddiant mewn perthynas â chyfryngau cymdeithasol a chyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau ar ran busnesau a chyrff cyhoeddus. Mae ein gwasanaethau yno i helpu gwella cyfathrebu rhwng busnesau a chwsmeriaid. 
 
Mae meddwl am syniadau yn bwysig iawn, ond mae’n bwysig gweithredu ar eich syniad a gweithio'n galed i sicrhau ei lwyddiant. 
Deian Illtud ap Rhisiart - Cyfathrebu Mwndo Communication
 
Dw i wedi gweithio yn y diwydiant creadigol am nifer o flynyddoedd a dw i’n credu fod gen i ddealltwriaeth ddofn o'r diwydiant. Gallaf gynnig fy arbenigedd i bobl ifanc sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y sector hwn.  
 
Y rhan anoddaf oedd sefydlu'r busnes a cheisio ei hyrwyddo ar fy mhen fy hun. Mae'r rhyddid yn bwysig, ond mae'n waith caled. Mae'r busnes yn tyfu’n barhaus, a dw i’n datblygu sgiliau newydd bob dydd. Dw i wedi dysgu bod yn rhagweithiol a dyfeisgar, sy’n ddwy elfen bwysig iawn ym myd busnes.