Deri Jones
Deri Jones and Associates Ltd
Trosolwg:
Ymgynghorwyr peirianneg ydy Deri Jones & Associates Ltd, rydym yn cyflenwi gwasanaethau modelu CAD 3D a sganio laser 3D
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Powys

Ymgynghorwyr peirianneg ydy Deri Jones & Associates Ltd, rydym yn cyflenwi gwasanaethau modelu CAD 3D a sganio laser 3D. Gweithiwn ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop, yn bennaf yn y sector morol, ond gan gymhwyso ein sgiliau i bopeth o rewlifoedd i awyrennau. Yn gryno, cyflenwn becynnau Airfix maint llawn i adeiladwyr cychod dur ac alwminiwm eu cydosod, gan leihau costau, neu’n defnyddio sganwyr laser i wrthdroi strwythurau peiriannwr sy’n bodoli’n barod.  

 

Dechreuais y busnes er mwyn cael byw mewn rhan brydferth o Gymru – roedd yr opsiynau am gyflogaeth yn gyfyngedig ar y pryd ac ar ôl rheoli cwmni cyn ymsefydlu, roeddwn yn ymwybodol o rai o’r heriau byddwn yn eu hwynebu ac roedd gen i rai o’r sgiliau angenrheidiol. Roedd gen i ddealltwriaeth dda o sut allai’r rhyngrwyd gael ei harneisio i alluogi gweithio’n bell i ffwrdd o’m cleientiaid a’u cyflenwyr, a adawodd i ni ennill cwsmeriaid o bob rhan o’r byd.  

  

Rwyf wedi mwynhau peirianneg erioed, ers fy mhlentyndod, ac mae’r sgiliau datrys problemau’n  trosglwyddo’n dda i redeg y busnes.  Galwadau ffôn gan gleientiaid sy’n gofyn “Allwch chi weithio allan sut mae gwneud hyn?....” yw beth sy’n darparu’r heriau rwy’n eu mwynhau.   

 

Y broblem fwyaf i gwmni bach sydd wedi’i leoli yn Nghanolbarth Cymru yw i’r cleientiaid oresgyn y syniad bod angen i chi fod yn eu cyffiniau nhw i gynnig gwasanaeth da. Drwy ganolbwyntio ar sgiliau arbenigol a defnyddio TG yn dda, rydym wedi darganfod bod modd i ni ennill cleientiaid ledled y byd – mae’n amherthnasol i’r cwsmer os ydych chi ym Machynlleth neu Gaerdydd pan fyddan nhw yn Seland Newydd ac mae’r prosiect rydych chi’n gweithio arno yn cael ei adeiladu yn Ne Ffrainc. 

 

Fy hoff ran o’r swydd yw penderfynu pa brosiectau byddwn ni’n eu cymryd a gweld ble mae’r prosiect yn ein dwyn a pha heriau byddwn yn eu hwynebu. Mae ysgrifennu asesiadau risg am ddelio ag Eirth Gwyn, neu dreulio sawl diwrnod yn byw ar dancer nwy yn rhan o rai o’r prosiectau rydym wedi eu cyflawni, felly does wybod beth ddaw o’r alwad ffôn nesaf. 

 

Fy mhrif gyngor fyddai "Byddwch yn gwbl hyderus am eich syniadau – os na wnewch chi, fydd eraill ddim."  

Peidiwch byth â meddwl eich bod yn rhy fach i geisio ennill gwaith yn erbyn cwmnïau mawr – yn aml bydd ateb mwy ystwyth a phwrpasol yn gweithio’n well nag agwedd “dyma sut rydym ni’n ei wneud……”, gan eich rhoi chi ar flaen y gad.