Odyssey yw enw fy musnes ac mae’n gwmni datblygu meddalwedd a gwefannau yng Nghaerdydd. Rydyn i’n gweithio gyda busnesau eraill i’w helpu i wella eu prosesau drwy ddatblygu meddalwedd pwrpasol ar eu cyfer. Rydyn ni hefyd yn creu gwefannau i helpu busnesau ac unigolion i wella eu presenoldeb ar-lein.
Rydw i’n Beiriannydd Meddalwedd ac fe ddechreuais fy musnes cyntaf pan oeddwn i’n 18 oed.
Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn i bob amser yn chwilfrydig eisiau gwybod sut roedd pethau’n gweithio. Roeddwn i bob amser yn tynnu offer electronig yn ddarnau gan edrych y tu mewn iddynt. Datblygodd hyn yn ei dro i greu meddalwedd, fel diddordeb personol. Fe wnes i barhau i ddatblygu fy sgiliau ym maes technoleg tra oeddwn yn yr ysgol uwchradd. Ond fe wynebais sawl her. Roedd gen i ddau athro, y naill yn fy ysbrydoli i ddatblygu fy angerdd o fewn y diwydiant a’r llall bron yn fy annog i beidio â mynd i’r brifysgol o gwbl, heb sôn am barhau i ddilyn fy angerdd at dechnoleg. Er gwaethaf amheuon fy athro, penderfynais ddilyn fy awch am dechnoleg ac astudio Peirianneg Meddalwedd yn y Brifysgol. Drwy gydol fy nghyfnod yn y brifysgol, roeddwn i’n gweithio mewn sawl swydd anfoddhaus a dyna pryd y penderfynais fy mod i’n mynd i wneud rhywbeth i mi fy hun. Ar ôl graddio, penderfynais redeg fy musnes fy hun yn llawn amser.
“Mae pobl bob amser eisiau gwybod am eich stori. O ble y dechreuoch chi, lle rydych chi arni nawr ac i ble rydych chi’n mynd. Nawr yw'r amser i ddechrau meddwl am y stori rydych chi eisiau ei hadrodd.”
Cynghorion Gorau
Ewch allan a rhowch gynnig arni. Fe ddysgwch chi gymaint drwy roi cynnig ar bethau newydd.