Doug Hughes
Doug Hughes
Hughes Architects Ltd
Trosolwg:
Penseiri a dylunwyr sy’n arbenigo mewn adeiladau carbon / ynni isel
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Powys

Roedd fy nghefndir cynnar yn ymwneud â dylunio tai cymdeithasol ac yna tai untro pwrpasol ar gyfer cleientiaid preifat. Roeddwn yn teimlo y gallwn wneud yn well i mi fy hun a sefydlais fy musnes yn 2001.  Penseiri a dylunwyr yng nghanolbarth Cymru ydym ni ond rydym yn gweithredu ledled y DU. Rydym yn arbenigwyr mewn adeiladau carbon isel, gyda galw isel am ynni.
 
Peidiwch â meddwl gormod am y pethau negyddol. Dysgu'n gyflym a symud ymlaen.
Doug Hughes - Hughes Architects Ltd
 
Fel perchennog busnes mae'n wych gweld cydweithwyr yn datblygu y tu hwnt i ddisgwyliadau o dan eich arweiniad. Rwyf wedi gwneud rhai camgymeriadau ar hyd y daith - ond dim ond unwaith ydw i wedi’u gwneud!