Dr Ben Reynolds
Urban Foundry Ltd
Trosolwg:
ASIANTAETH ADFYWIO GREADIGOL
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Urban Foundry yn datblygu syniadau gwych sy’n newid y byd er gwell – gwella bywydau pobl, gwneud llefydd gwell a chreu busnesau gwell. Rydym yn rhoi cefnogaeth a chyngor i eraill, ac yn datblygu ein prosiectau ein hunain hefyd. Sefydlwyd y busnes yn 2004, ac rydym wedi gweithio ar hyd a lled y DU ar brosiectau mawr a bach.

Chefais i ddim fflach sydyn o ysbrydoliaeth, fe ddatblygodd y syniad drwy gyfuno dwy elfen – cariad at ddaearyddiaeth drefol yn y brifysgol, a ddysgodd lawer i mi am bobl a lleoliad (yn ffodus iawn, rwy’n eithaf da am adnabod patrymau/cysylltiadau rhwng pethau a meddwl yn greadigol), a sylfaen ddamweiniol bron yn y sector gwirfoddol yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, lle dysgais am entrepreneuriaeth gymdeithasol a gwerth rhwydweithiau. Ond roeddwn i bob amser wedi cael fy sbarduno gan y syniad fy mod i eisiau i fy mywyd gwaith fod yn rhywbeth a) rwy’n mwynhau ei wneud; b) sy’n gwneud gwahaniaeth i’r byd; ac c) sydd, yn ôl yr arfer, yn rhoi digon o arian i mi brynu bwyd a dillad a rhoi to uwchben teulu rhyw ddydd (er nad oedd gen i deulu ar y pryd).

Fe wnes i ddechrau’r busnes yn yr ystafell sbâr yn fy nghartref – yr unig bethau oedd gen i er mwyn dechrau’r busnes ar y pryd oedd ffôn symudol, gliniadur, band eang a char (dim un o’r rhain wedi’u prynu ar gyfer y busnes). Doedd gen i ddim ceiniog o arian cyfalaf i sefydlu’r busnes, doedd gen i ddim llawer o arian yn y banc a dim un person arall y gallwn i ddibynnu arno i dalu’r biliau nes byddai’r busnes wedi dechrau magu stêm. Ar yr ochr gadarnhaol, natur fy musnes ar y pryd (ac mae’n dal yn wir heddiw i raddau helaeth) oedd bod pobl yn talu am fy ngwybodaeth a fy arbenigedd i. Felly, doedd dim angen adeiladau, cerbydau, peiriannau na staff arnaf fi – dim ond fi fy hun, a ffordd o gyfathrebu â phobl ar lafar ac yn ysgrifenedig. Felly, ar wahân i gostau teithio a biliau ffôn, gallai’r holl arian roeddwn i’n ei ennill yn y dyddiau cynnar ddod i mi, a doedd dim angen llawer o arian er mwyn bwrw iddi.

Pryd bynnag rydw i’n sôn am ddechrau’ch busnes eich hun, mae ’na dri chwestiwn cyffredin: beth ydy’r her fwyaf; pam wnes i hynny/pam ydw i’n gwneud hynny; a pha gyngor fyddwn i’n ei roi i rywun sy’n dechrau ei fusnes ei hun.

Mae’n siŵr mai llif arian ydy’r her fwyaf wrth redeg busnes bach – efallai fod hynny’n fwy o her nawr nag yn y dechrau, gan fod gen i staff sydd (yn wahanol i fi yn y dyddiau cynnar) angen cael eu talu’n brydlon bob mis! Yn ffodus iawn, roedd gen i rwydwaith o bobl yn barod yn fy nhref enedigol. Pan wnes i ddechrau’r busnes, fe ddywedodd un person y byddai’n prynu rhywfaint o fy amser i yn syth ar ôl i mi fynd yn llawrydd, er mwyn cael help llaw. Dyna sut ddechreuodd pethau.

Gan fy mod i’n fos arnaf fi fy hun, rydw i’n rheoli fy nhynged fy hun. Mae hynny’n gallu bod yn frawychus weithiau – fe fyddwn i wrth fy modd ar brydiau petai rywun arall yn gyfrifol am dalu’r biliau – ond rydw i’n hoffi gallu penderfynu pa drywydd i’w ddilyn a beth rydw i’n ei

wneud. Ac er bod yr oriau’n gallu bod yn hirach o lawer nag mewn swydd gyflogedig, os ydw i eisiau mynd adref yn syth i weld fy nheulu, fe alla i wneud hynny. Dydw i erioed wedi gorfod colli parti pen-blwydd y plant na chyngerdd ysgol. A phan fydd dyddiadau pethau pwysig y plant yn newid munud olaf, dydy hynny ddim yn broblem chwaith fel arfer. Hefyd, os ydy’r busnes yn gwneud elw, fi sy’n cael yr elw i gyd!

Fy nghyngor i chi fyddai meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei wneud yn dda, ond hefyd rywbeth y byddwch chi’n ei fwynhau. Allwch chi fasnacheiddio’r dalent / syniad a’i ddefnyddio i ennill bywoliaeth? Does dim rhaid i chi greu rhywbeth hollol newydd – bydd rhai pobl yn meddwl am syniad unigryw nad oes neb erioed wedi meddwl amdano, ond amrywiad ar yr un thema ydy’r rhan fwyaf ohonom ni. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi’n credu all weithio, a gwnewch hynny’n dda. Dysgwch am farchnata a gwerthu – dydy’r syniad ddim yn mynd i weithio os nad ydy pobl yn gwybod amdano ac eisiau prynu gennych chi (ond cofiwch mai sylwedd, nid steil, sy’n bwysig!). Peidiwch â digalonni – byddwch chi’n siŵr o fethu o dro i dro. Peidiwch â gadael i fethiant fynd yn obsesiwn – mae hi wedi dod yn ffasiynol ddathlu methiant fel rhyw fath o nod. Fe ddylech chi geisio llwyddo bob amser. Ond peidiwch chwaith â meddwl nad ydy pobl lwyddiannus yn methu ar hyd y daith. Maen nhw’n methu’n aml. Er bod eu llwyddiannau’n digwydd yn gyhoeddus, mae eu methiannau (fel arfer, ond nid bob tro) yn cael eu cadw’n breifat. Dydyn nhw ddim yn fethiannau mawr bob tro, ond maen nhw’n methu o bryd i’w gilydd.

Dathlwch eich llwyddiannau ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth aeth o’i le ac yn dysgu o hynny, yna’n gwella, yn newid ac yn gofalu nad ydych chi’n gwneud y camgymeriad hwnnw eto.