Llun Dwynwen Williams
Dwynwen Williams
Atom PR
Trosolwg:
PR Company
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Gwynedd

 

Ymunodd Dwynwen, sydd â chefndir mewn rheoli gwybodaeth, ag ATOM fel cyd-gyfarwyddwr yn 2005. Gan gychwyn ei gyrfa ddiwedd yr 1990au fel rheolwr prosiect ar gynlluniau a oedd yn gweithio i gynyddu’r defnydd o TGCh mewn busnesau (a chyflymu mynediad at gysylltiadau rhyngrwyd band eang) roedd ganddi ddealltwriaeth drylwyr o gyfathrebu o bob math. Roedd ei phrofiad hefyd yn gyfrifol am ei hagwedd ‘mabwysiadwr cynnar’ tuag at gyfryngau cymdeithasol ac arbenigedd mewn cwmnïau byd-eang. Uchafbwynt ei gyrfa hyd yma oedd rheoli’r ymgyrch ryngwladol We Want Peace ar ran y dyngarwr Emmanuel Jal, prosiect ymgysylltu aml agwedd a oedd yn cynnwys popeth o faterion cyhoeddus ar lefel ryngwladol i ardystiadau gan enwogion a chysylltu â’r cyfryngau, gan sicrhau sylw i’r client ar bob cyfandir ac mewn dros 10 o ieithoedd.

Mae gan Dwynwen radd yn y Gyfraith, gradd Meistr mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth a Diploma Ôl-raddedig CIPR mewn Cysylltiadau Cyhoeddus. Ei phrif ddiddordeb, heb amheuaeth, yw cerddoriaeth (hip hop, soul ac afrobeats yn fwy na dim) a phan nad yw’n addurno ei thŷ newydd sbon, mae’n mwynhau mynd i gymaint o ddigwyddiadau’r diwydiant cerddoriaeth â phosibl ac mae hefyd yn mentora ac yn helpu artistiaid o Brydain ac Affrica.