Elin
Elin Evans
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc Syniadau Mawr Cymru
Sectorau:
Manwerthu
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Powys

Mae Elin yn Llysgennad Ifanc dros Syniadau Mawr Cymru

Mae ein Llysgenhadon Ifanc yn entrepreneuriaid newydd, uchelgeisiol sydd wedi dechrau busnes yn ddiweddar, ac sydd am ysbrydoli eu cyfoedion. Mae llawer ohonyn nhw wedi elwa ar gymorth gan Syniadau Mawr Cymru, a hoffen nhw rannu eu profiadau ar-lein ac mewn digwyddiadau. Rhowch wybod inni os hoffech chi drafod ag unrhyw rai o’n Llysgenhadon Ifanc.

 

Mae Elin Evans yn gwneud bagiau a gwregysau o ledr, ac mae’n derbyn comisiynau i ddylunio eitemau unigryw ar gyfer cwsmeriaid yn lleol ac o bob cwr o’r DU o dan ei henw busnes Elin Angharad. Mae’n arbenigo mewn ailddefnyddio nwyddau lledr ail-law – o siacedi i esgidiau – sy’n aml â gwerth sentimental i’w chwsmeriaid, ac sydd wedyn yn cael eu hymgorffori yn ei dyluniadau newydd.

Daeth Elin ar draws gwaith lledr ar ddamwain yn ystod profiad gwaith yn ail flwyddyn ei chwrs gradd Arlunydd Dyluniwr a Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle cafodd gyfle i weithio am gyfnod byr â chrydd lleol ym Machynlleth, Ruth Emily Davey. Yma, dechreuodd wirioni ar weithio â lledr a bu’n canolbwyntio ar weithio â nwyddau lledr yn ystod gweddill ei gwaith cwrs yn y brifysgol.

Ar ôl graddio, daeth Elin ar draws gofod yng nghanol tref Machynlleth lle sefydlodd ei gweithdy ac mae wedi gwneud dros 70 o eitemau a gomisiynwyd ers dechrau eleni. Mae ei dyluniadau’n cynnwys popeth o fagiau dwrn bychain a waledi, i fagiau cario mawr, sy’n amrywio yn eu pris o £90 i £270.