Pan oeddwn i’n 23 oed, cefais ddiagnosis o lewcemia, a threuliais i’r tair blynedd nesaf i mewn ac allan o’r ysbyty. Wedi cael profiad o’r fath a finnau mor ifanc, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi fy mywyd, a sylweddoli bod iechyd a chyflawniad yn fy nghymell llawer mwy na dim ond elw ariannol.
Cefais sawl swydd ran-amser yn ystod f’ugeiniau wrth i mi ganolbwyntio ar sefydlu fy mentrau fy hun, ond pan gefais fy mhlentyn cyntaf, rhoddais y gorau a gweithio’n rhan-amser mewn swydd marchnata gwastraff ac ailgylchu. Wrth weithio yno, cwrddais â rhywun a redodd ffatri teiliau carped, a chyda’n gilydd penderfynom ni gychwyn busnes menter gymdeithasol i ailddefnyddio teiliau carped a fyddai’n cael eu gwastraffu fel arall.
Sefydlwyd Greenstream Flooring yn 2009, ac mae wedi mynd o ddim ond ‘syniad da’ i fenter gymdeithasol fuddugol, sy’n cyflogi naw o staff mewn dau warws ac yn cefnogi’r gymuned leol gyda Phrosiect Deunydd Llorio Fforddiadwy.
Ffactorau llwyddiant: Penderfyniad a chred yn y ffaith y bydd eich syniad yn gweithio; cael y bobl gywir o’ch cwmpas yn eich bywyd personol a phroffesiynol; deall bod rhedeg busnes yn golygu aberth
Gwefan: www.findcarpettiles.co.uk