Ellis Smith
Ellis Smith
Barbell Club
Trosolwg:
Mae gŵr 22 oed o Gaerffili wedi sefydlu cwmni dillad chwaraeon i helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac mae'n rhoi 10% o'i elw blynyddol i elusennau iechyd meddwl.
Sectorau:
Manwerthu
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

 

Mae gan Ellis Smith, sydd yn ei flwyddyn olaf o radd mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ADHD ac OCD a chanfu fod ymarfer corff, yn enwedig CrossFit, yn help iddo reoli ei gyflwr o ddydd i ddydd. Mae wedi defnyddio'r profiad personol hwn i greu ei frand ffitrwydd a hamdden, The Barbell Club, sydd hefyd yn ceisio hybu iechyd meddwl.

 

Mae'r Barbell Club yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys crysau-t, hwdis a hetiau trwy siop ar-lein. Crëwyd slogan y brand, ‘Physically Fit, Mentally Strong’, gan Ellis i adlewyrchu ethos y cwmni wrth godi ymwybyddiaeth o sut y gall ymarfer corff helpu iechyd meddwl.

 

Dywedodd Ellis: “Dwi'n gweld ymarfer corff, a CrossFit yn arbennig, yn help i reoli fy OCD ac ADHD. Pan oeddwn i'n iau, fe wnes i chwarae llawer o chwaraeon, felly roedd y salwch yn cuddio ei hun. Ond wrth i mi roi'r gorau i chwarae pêl-droed ac ymarfer corff, roedd y symptomau yn gryfach. Cefais fwy o amser sbâr a doeddwn i ddim yn rhyddhau ynni. Wrth edrych yn ôl nawr gallaf weld faint wnaeth ymarfer corff helpu."

 

“Dwi'n gweld ymarfer corff, a CrossFit yn arbennig, yn help i reoli fy OCD ac ADHD. Pan oeddwn i'n iau, fe wnes i chwarae llawer o chwaraeon, felly roedd y salwch yn cuddio ei hun. Ond wrth i mi roi'r gorau i chwarae pêl-droed ac ymarfer corff, roedd y symptomau yn gryfach. Cefais fwy o amser sbâr a doeddwn i ddim yn rhyddhau ynni. Wrth edrych yn ôl nawr gallaf weld faint wnaeth ymarfer corff helpu."

 

“Mae cymaint o ymchwil sy'n dweud y gall ymarfer corff wella eich iechyd meddwl yn sylweddol ac oherwydd hyn, a sut mae ymarfer wedi fy helpu, roeddwn i eisiau sefydlu Barbell Club. Rydw i wedi galw'r brand 'The Barbell Club' oherwydd fy mod am i bobl deimlo nad ydyn nhw byth yn unig, maen nhw'n rhan o glwb. Trwy'r busnes hwn, a thrwy roi 10% o'm helw blynyddol i elusennau iechyd meddwl, rwy'n gobeithio y gallaf wneud gwahaniaeth i bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl eu hunain.”

 

 

 

 

Mae Ellis hefyd yn lansio cynhyrchion newydd i fenywod yn fuan iawn gan gynnwys bras chwaraeon a festiau ymarfer. 

Dechreuodd Ellis ei fusnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Fusnes Cymru ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r gwasanaeth wedi'i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes.

 

Cafodd Ellis wybod am y gwasanaeth trwy Steve Aicheler, rheolwr ymgysylltu entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

 

Wrth siarad am Syniadau Mawr Cymru a'r gefnogaeth a gafwyd hyd yma, dywedodd Ellis: “Roedd y gwasanaeth yn ddefnyddiol iawn, fe agorodd fy llygaid i lawer o bethau nad oeddwn wedi eu hystyried o'r blaen am fusnes. Roedd Mark Adams, fy ymgynghorydd busnes, yn arbennig o ddefnyddiol yn fy arwain ar yr hyn a fyddai'n gweithio i'r brand yr oeddwn wedi'i ragweld.

“Roedd yn wych gwybod fy mod i wedi cael y gefnogaeth ac roedd y ddealltwriaeth yr oeddent yno i mi yn ystod y broses gyfan yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fy hyder fel perchennog busnes newydd.”

 

Dywedodd Mark Adams, ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Ellis yn berson penderfynol dros ben gyda dawn am fusnes. Mae wedi troi ei angerdd dros CrossFit a'i dosturi tuag at iechyd meddwl yn fusnes. Ni allaf aros i weld ble mae'r busnes yn mynd a dymunaf y gorau iddo i'r dyfodol.”

 

Wrth siarad am pam yr oedd am ddechrau ei fusnes ei hun, dywedodd Ellis: “Rwyf wastad wedi bod eisiau bod yn berchen ar fusnes, i greu fy ngyrfa fy hun, i fod yn fos arnaf fy hun a gwneud marc ar y gymuned leol.

“Nawr rydw i wedi gallu gwireddu'r freuddwyd hon, y cyfan rydw i eisiau gwneud yw parhau i dyfu a datblygu'r cwmni. Yn y dyfodol agos byddaf yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau CrossFit a chwaraeon gan gynnwys Inferno yng Nghaerdydd a gynhelir ym mis Awst lle byddaf yn gwerthu fy nghynhyrchion.”

 

 

“Nawr rydw i wedi gallu gwireddu'r freuddwyd hon, y cyfan rydw i eisiau gwneud yw parhau i dyfu a datblygu'r cwmni. Yn y dyfodol agos byddaf yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau CrossFit a chwaraeon gan gynnwys Inferno yng Nghaerdydd a gynhelir ym mis Awst lle byddaf yn gwerthu fy nghynhyrchion.”

 

 

 

Mae gan Ellis uchelgais o allu cyflogi aelodau o staff wrth i'r busnes dyfu. Ychwanegodd: “Fy nod yn y pen draw ar gyfer Clwb Barbell yw helpu pobl sy'n dioddef o iechyd meddwl. Os mai un person sy'n penderfynu siarad â rhywun am ei iechyd meddwl ei hun oherwydd y cwmni, byddai'r holl waith caled yn werth chweil i mi.