Emilienne Rebel
Rebelfamily Products
Trosolwg:
Cynhyrchwyr ac adwerthwyr Hetiau Colli Gwallt Cyfforddus a Llawn Steil, Sgarffiau’r Pen a Rapiau, Anrhegion a Gorchuddion PICC, Gwisgoedd Pen a wnaethpwyd at Chwaeth Cwsmer a Gwisgoedd Pen Rhyddid.
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Wrecsam

Cynhyrchwyr ac adwerthwyr Hetiau Colli Gwallt Cyfforddus a Llawn Steil, Sgarffiau’r Pen a Rapiau, Anrhegion a Gorchuddion PICC, Gwisgoedd Pen a wnaethpwyd at Chwaeth Cwsmer a Gwisgoedd Pen Rhyddid. Rhosynnau a Thuswau. Hope - llyfr i blant. Gwisgoedd Pen Meddal Colli Gwallt trwy Ganser i Fenywod, Dynion a Phlant. Dosbarthu’n fyd-eang. Gwnaethpwyd yn y Deyrnas Unedig gan oroeswr canser y fron, Emilienne - ENILLYDD Gwobr Arloesedd Menywod Ewrop EUWIIN 2015.

Mae’r wefan yn ehangu i gyflwyno cynhyrchion newydd i’r casgliad presennol o hetiau beanie i fenywod, dynion, pobl ifainc a phlant ac i ehangu’r posibiliadau o wneud pethau at chwaeth y cwsmer gan gynnwys crysau-T. Caiff gorchuddion PICC a dwy fath o sgarffiau i’w lapio o amgylch yr hetiau beanie neu eu gwisgo ar eu pen eu hunain a wnaethpwyd o gotwm meddal eu hychwanegu at y safle cyn hir.

Yn ogystal ag anrhegion tuswau canser, yn ddiweddarach mae Emilienne hefyd wedi datblygu’r het Graffiti Greetings Bold Beanie fel dewis arall i’r cerdyn gwellhad buan personol..sef ffordd ysgafn o ddangos i rywun sy’n derbyn triniaethau canser eich bod yn meddwl amdano. Mae mwy a mwy o bobl hefyd yn prynu hetiau Bold Beanies i’w gwisgo o dan bob math o sgarff, helmed a het galed fel haen anadladwy ar gyfer chwaraeon awyr agored.

Enillodd Emilienne wobr cydnabyddiaeth arbennig yn ystod Gwobrau Dyfeiswyr ac Arloeswyr i Fenywod Prydain 2009 (BFIIN) a Gwobr Creadigrwydd Arloeswyr i Fenywod Ewrop (EUWIIN) yn 2015, ac mae’n hynod falch o hyn.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Emilienne ei llyfr cyntaf, HOPE a oedd yn dic enfawr ar ei rhestr fwced a chyhoeddir DREAM cyn hir!