Fel llawer o raddedigion diweddar, roedd Emma yn ymuno â’r farchnad swyddi yng nghanol y dirwasgiad. Doedd fawr ddim cyfleoedd cyflogaeth lle’r oedd hi’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr felly, yn hytrach na symud ymhell o’i theulu a’i ffrindiau, penderfynodd Emma droi sefyllfa negyddol yn un cadarnhaol:
Dewisodd Emma fanteisio ar wybodaeth a phrofiad ei rhieni a oedd eisoes yn berchen ar fusnes cyflenwi dillad gwaith. Aeth ati i ail-siapio eu model busnes i weddu i’w syniad ei hun o gyflenwi gwisgoedd ysgol, gan ddiwallu anghenion unigol sefydliadau addysgol yn yr ardal leol.
Oherwydd y sefyllfa economaidd, fodd bynnag, roedd y banciau yn llai bodlon benthyca i fusnesau newydd ac roeddent yn gofyn am gynlluniau busnes manwl iawn.
Teimlodd hi ryddhad, felly, pan gysylltodd â Chefnogaeth Busnes Cymru. Helpodd ei mentor busnes hi i lunio rhagolygon ariannol, yn ogystal â’i harwain i gyfeiriad y bwrsari Cychwyn Busnes i Raddedigion.
Meddyliwch yn agored o ran chwilio am gymorth ariannol. Mae nifer o grantiau o gwmpas sy’n golygu nad oes raid i chi ddibynnu ar fanciau’n unig
Emma Staple - Uniform 2 Go
Mae Uniform 2 Go Ltd bellach yn cyflenwi holl ofynion dillad brodwaith Ymddiriedolaeth y Tywysog. Enillodd Emma wobr Menter yr elusen i gydnabod ei chyflawniad, ac fe’i cyflwynwyd iddi mewn seremoni llawn sêr yng Nghaerdydd.
Gwisg 2 Go Ltd hefyd yn cyflenwi 4 ysgol yn yr Almaen ac allforio gwisgoedd iddynt.
"Roedd pobl o fy nghwmpas yn dweud fy mod yn wallgof yn dechrau busnes yn ystod y dirwasgiad, ond roeddwn yn credu pe byddwn yn gallu sefydlu fy nghwmni pan roedd amserau’n anodd, y byddwn yn hedfan pan fyddai’r sefyllfa economaidd yn gwella."
Gwefan: uniform2go.co.uk
Facebook: /uniform2go