Ffion McCormick-Edwards
Ffion McCormick-Edwards
Barefoot Tech
Trosolwg:
Brand cynnyrch wedi’i adfer lle rydw i’n ailgylchu siwtiau gwlyb, siacedi achub a deunyddiau eraill sy’n ymwneud â chwaraeon dŵr yn ategolion unigryw, gwydn a ffasiynol iawn gyda phob ategolyn yn cael ei wneud â llaw yn Ne Cymru.
Rhanbarth:
Abertawe

Brand cynnyrch wedi’i adfer lle rydw i’n ailgylchu siwtiau gwlyb, siacedi achub a deunyddiau eraill sy’n ymwneud â chwaraeon dŵr yn ategolion unigryw, gwydn a ffasiynol iawn gyda phob ategolyn yn cael ei wneud â llaw yn Ne Cymru.

Fy nod yw bod yn atebol ond yn fforddiadwy. Rwy’n ailgylchu siwtiau gwlyb a deunyddiau i greu cynnyrch fel bagiau i’w rhoi o amgylch eich canol, pecynnau cefn, hetiau bwced, bagiau cario a llawer mwy.

Ar ôl graddio yn ystod anterth y pandemig yn 2020 a symud yn ôl adref i Abertawe, roeddwn i’n ddi-waith ac wedi diflasu. Cyfunais fy niddordeb mewn chwaraeon dŵr gyda fy ngradd greadigol mewn dylunio cynnyrch ffasiwn, a dechreuais greu bagiau a’u harddangos ar y cyfryngau cymdeithasol. Denodd hyn lawer o ddiddordeb, a dyna pryd y trodd fy hobi’n fusnes. Sefydlais Barefoot.Tech gyda chenhadaeth ac ateb i broblem gwastraff siwtiau gwlyb. Deunydd nad yw’n fioddiraddadwy yw Neoprene ac mae LLWYTHI o siwtiau gwlyb yn mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Gallai’r ateb bach o gyflwyno bywyd cylchog i’r cynnyrch terfynol gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, a gallai arwain ar gael dyfodol mwy gwyrdd.

Gall gweithio i chi eich hun fod yn unig weithiau, a byddwn yn treulio un diwrnod ar ôl y llall yn fy stiwdio yn gwnïo ac yn delio â phopeth ar-lein. Er fy mod i’n rhan o glwb sgïo dŵr, rhywbeth tymhorol yn unig yw hynny, rydw i’n eithaf egnïol felly fe wnes i’n siŵr fy mod i’n neilltuo amser ar gyfer hynny ac ymunais â chlwb dawnsio lleol, ac o hynny gwnes ffrindiau am oes gyda merched rydw i’n eu defnyddio nawr fel modelau ar gyfer fy nghynnyrch. Gan fod gen i gefndir creadigol, chefais i erioed fy nysgu am fusnes; sut i roi cychwyn arni, cael gwefan, marchnata a strategaethau brandio. Treuliais rywfaint o amser yn dysgu ychydig o’r sgiliau hyn ond roedd angen help arnaf ar yr ochr ddadansoddol/rhifau. Mi wnaeth Syniadau Mawr fy rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd busnes a roddodd gefnogaeth a chyngor i mi gydag unrhyw beth nad oeddwn i’n ei ddeall neu unrhyw gwestiynau oedd gen i.

Y peth gorau yw gallu gwneud yr hyn rydw i’n ei hoffi bob dydd, a gallu creu a gwerthu fy nyluniadau fy hun. Fe wnes i droi fy angerdd a fy hobi yn gynhyrchion y gall pobl eu defnyddio yn eu bywyd bob dydd a chael effaith ar yr amgylchedd yn y diwydiant ffasiwn drwy wneud hynny.