Sefydlodd Gareth un o’r cymunedau mwyaf o entrepreneuriaid yn y DU yng Nghaerffili yn 2012. Yna aeth ati i fuddsoddi ei amser a’i egni i helpu busnesau newydd ym mhob cwr o Gymru.
Yn 2017, gadawodd y cwmni hwnnw i lansio Town Square Spaces, gyda’r nod o helpu miloedd mwy o bobl ledled y DU.
Yn y cyfnod hwnnw, mae Town Square wedi lansio gofod yn Wrecsam – tref enedigol Gareth – ac mae ganddynt ddau ofod yn agor ar draws y DU, yn Swydd Rydychen a Gorllewin Sussex.
“Pan oeddwn i’n ifanc, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i am wneud. Drwy redeg busnes, rydw i wedi dysgu wrth fynd ymlaen a chreu swydd rydw i wrth fy modd â hi”.
Yn ogystal â hyn, mae Gareth yn gynghorydd i Brif Weinidog y DU fel rhan o’r Cyngor Busnes ar gyfer Busnesau Bach, a Clwstwr Creadigol, a sefydlwyd i fuddsoddi mewn cwmnïau yn y diwydiannau creadigol a’u cefnogi. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Cardiff Start – sydd â dros 3000 o aelodau sy’n gweithio ar fusnesau creadigol a digidol.
Pan nad yw’n ddyn busnes, mae Gareth yn mwynhau chwarae pêl-droed 5 bob ochr, mae’n cefnogi Arsenal ac yn dysgu drwy deithio a darllen llyfrau.