Gareth Jones
Gareth Jones
Carbon Zero Renewables
Trosolwg:
Mae Carbon Zero Renewables yn darparu ynni adnewyddadwy ac atebion arbed ynni ar gyfer cartrefi, busnesau, elusennau ac adeiladau cyhoeddus
Sectorau:
Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol a Nwyddau
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Cefais f’ysbrydoli gan fy Nhad a sefydlodd ei fusnes ei hun 30 mlynedd yn ôl. Dyna oedd y sbardun i fi fod yn bennaeth arna i fy hun! Ers hynny rwy wedi bod ar wibdaith emosiynol i fyny, i lawr a thua’r ochr!  Yn 2008 doeddwn i ddim yn gwybod dim am ynni solar, heddiw ni yw Cwmni Solar y DU ac ymhlith y 5 Gosodwr Pennaf am y 3 blynedd diwethaf yn y DU. F’angerdd i yw gwneud pethau newydd ‘dyw pobl ddim wedi eu gwneud o’r blaen, mae clywed "chi’n methu gwneud yna neu ‘dyw hynny ddim yn bosib" yn fy herio i i ddod o hyd i ateb.

Jest am fod rhywbeth yn syniad da, ‘dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn syniad busnes da. Peidiwch â gwastraffu’ch amser yn meddwl ac yn myfyrio......mae angen i chi fynd allan a gwneud mwy o wneud!

Gareth Jones - Carbon Zero Renewables

Rwy’n berchen ar bum cwmni sy’n cyd-fynd â’i gilydd yn dda.  Mae Carbon Zero Renewables yn darparu ynni adnewyddadwy ac atebion arbed ynni ar gyfer cartrefi, busnesau, elusennau ac adeiladau cyhoeddus.

Gwefan: carbonzerorenewables.co.uk