Gash Bhullar
Gash Bhullar
Sematronix Limited
Trosolwg:
Prosiectau hyfforddiant, dylunio ar y we, datblygu systemau ac ymchwil
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn un o'r cwmnïau mwyaf cyfeillgar, effeithiol ac agos atoch yn y farchnad. Mae ganddon ni amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys; hyfforddiant, dylunio gwefannau, datblygu systemau a phrosiectau ymchwil.

"Yn y byd hwn – does dim i’w gael am ddim. Gweithiwch yn galed a byddwch wedyn yn elwa ar y gwaith called."

Gash Bhullar - Sematronix Limited

Mae'r daith o fod gyda mwy neu lai ddim o gwbl ar y dechrau i'r rôl sydd gen i heddiw, wedi bod un anodd ond mae'n braf gallu rhannu'r profiad. Nid ydych yn gallu cael gyrfa fel hon ar blât.

Mae'n dibynnu ar waith caled iawn a rhywfaint o lwc. Dydy'r rhan fwyaf ohonon ni ddim yn cael pethau ar blât.

 

Os ydych eisiau rhywbeth o ddifrif ac yn fodlon gwneud yr ymdrech, byddwch yn cyrraedd eich targedau bob amser.

Yn yr oes sydd ohoni lle mae popeth ar gael mor rhwydd, mae ceisio cynyddu ymroddiad a brwdfrydedd y genhedlaeth iau yn sicr yn her.

Yr hyn sy’n gwneud entrepreneuriaid yn wahanol i bawb arall yw pa mor benderfynol ydyn nhw i lwyddo. Pan ydych yn ifanc, mae bob amser yn anodd gwybod yn union pa fath o yrfa yr ydych am ei dilyn. Cael modelau rôl y gallwch eu copïo yw un o'r dylanwadau mwyaf wrth benderfynu ar ba yrfa i’w dilyn.

Yn amlwg, mae llwyddiant yn dibynnu i raddau ar feddwl am rywbeth newydd a cheisio meddwl yn wahanol. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau neu roi cynnig ar rywbeth sy’n dod i’ch meddwl. Mae gan bob un ohonon ni freuddwydion a dyheadau mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Yr hyn sy’n gwneud rhywun yn llwyddiannus ym myd busnes yw ei allu i wireddu’r breuddwydion hynny.


Cysylltu gyda Gash