Gavin Eastham
Gavin Eastham
Cobra Life CIC
Trosolwg:
Dysgu crefftau ymladd er mwyn byw bywyd llawn a chytbwys
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Fel hyfforddwr crefftau ymladd a pherchennog Cobra Life CIC, fy mwriad yw dysgu sgiliau bywyd hollbwysig i bobl ifanc. Bydd fy stori yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r rheswm pam.

Fe lansiais fy musnes pan oeddwn i’n ddigartref. Ro’n ni mewn picil – ges i anaf ar fy nghefn, cefais fy nghofrestru’n anabl, collais i fy swydd a fy nghartref. Ro’n i’n byw ar y strydoedd, ond hyd yn oed pan ro’n i’n isel, ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i fi godi nôl ar fy nhraed. Yn y dydd, ro’n i’n mynd i’r llyfrgell – i ymchwilio mewn llyfrau ar entrepreneuriaeth ac i lunio fy nghynllun busnes. Gyda'r nos, ro’dd yn rhaid i fi ganolbwyntio ar gadw’n gynnes a dod o hyd i rywle i gysgu.

Ro’n i eisiau canolbwyntio fy musnes ar grefftau ymladd (mae gen i 2 gwregys ddu 3ydd Dan mewn Karate a cic-bocsio a nifer o raddau Dan mewn mathau eraill o grefftau ymladd). Ond doeddwn i ddim eisiau creu rhes o ‘terminators’ oedd yn dda mewn colbio a chicio’n unig. Ro’n i eisiau canolbwyntio ar yr athroniaethau sydd wrth wraidd crefftau ymladd llwyddiannus - sgiliau fel gwella hyder, canolbwyntio a hunanddisgyblaeth. Felly, yn ogystal ag addysgu technegau crefftau ymladd traddodiadol, ro’n i eisiau neilltuo sesiynau allweddol i sgiliau bywyd a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc ac oedolion a allai gael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd neu broblemus.

Felly, yn ogystal ag addysgu technegau crefftau ymladd traddodiadol, ro’n i eisiau neilltuo sesiynau allweddol i sgiliau bywyd a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc ac oedolion a allai gael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd neu broblemus.

Dyna sut wnes i greu’r ddwy raglen unigryw: Llwyddiant am Oes a Rheoli Sefyllfaoedd mewn Argyfwng. Erbyn hyn, rwy’n gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid lleol ar draws y rhanbarth, gan ddysgu’r rhaglenni hyn a rhoi gwybodaeth reolaidd i rieni a gofalwyr am gynnydd disgyblion.

Yn ogystal, ers lansio fy nosbarth cyntaf yng nghanolfan gymunedol Cei Connah ym mis Mai 2018, mae wedi tyfu i 23 o ddosbarthiadau’r wythnos, ac rwyf bellach yn fy stiwdio fy hun yn Shotton.

Rwyf wedi symud nôl i lety parhaol, ac er fy mod wedi cofrestru’n anabl o hyd, rwy’n gallu dysgu dosbarthiadau rheolaidd erbyn hyn mewn amrywiaeth o grefftau ymladd gwahanol.

Rwy’n hynod o falch bod fy nosbarthiadau a’m rhaglenni wedi cael y fath groeso gan gynifer o bobl ifanc, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu am flynyddoedd lawer i ddod.

Fy arwyddair yw ;

“Eich llwyddiant chi yw fy malchder i"