Gemma Hallet photo
Gemma Hallet
miFuture
Trosolwg:
Ap gyrfaoedd i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yw miFuture
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Mae miFuture yn defnyddio system glyfar i baru pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol gyda swyddi, cyrsiau a chyfleoedd gwirfoddoli. Cafodd ei greu ar y cyd â 2500 o bobl ifanc leol, ac rydyn ni’n gobeithio cyfeirio 100,000 o bobl sy’n gadael yr ysgol at gyflogadwyedd a ffyniant.

Y cwestiwn oedd – os nad nawr, pryd? Os nad fi, pwy? Doedd rhoi’r gorau i ddysgu ddim yn fwriad gen i, ond drwy greu rhywbeth ar y cyd â phobl ifanc a gweld eu cyffro a’u hangerdd, roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi adael er mwyn cyflawni addewid roeddwn i wedi'i wneud i’r bobl ifanc hyn.

Mae gwneud gwahaniaeth yn fy ysbrydoli i! Mae 7 miliwn o bobl ifanc yn y DU yn gadael ysgol, coleg a hyfforddiant ar hyn o bryd – rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw a lleihau’r rhwystrau sy’n eu hwynebu. Mae tlodi ymysg ieuenctid yn cynyddu ar raddfa ddychrynllyd, felly beth mae ‘gwneud gwahaniaeth’ yn ei olygu yma yw codi eu dyheadau a’u cyfeirio at sectorau blaenoriaeth a sectorau sy’n tyfu, gan arwain at swyddi mwy medrus gyda chyflogau uwch.

I mi, mae llwyddiant yn golygu ‘Gallu gwneud beth rydw i eisiau ei wneud, pan fydda i eisiau gwneud hynny’. Mae bod yn rheolwr arna i fy hun yn rhoi’r rhyddid a’r hyblygrwydd i mi gyflawni hyn.

Dau beth fyddwn i’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n sefydlu busnes yw y dylai floeddio am yr hyn mae’n ei wneud, wedyn bloeddio mwy. Wedyn, dewch o hyd i’ch cefnogwyr – y rheini sy’n gallu cefnogi’r hyn rydych chi’n ei wneud yn uniongyrchol a’r rheini sydd eisiau’ch cefnogi chi fel unigolyn. Mae ecosystem eithriadol o gefnogwyr yng Nghymru!