Georgia Walby
Georgia Walby
Evolve
Trosolwg:
Busnes hyfforddiant NLP yng nghanol Caerdydd.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rwy’n rhedeg busnes hyfforddiant NLP yng nghanol Caerdydd.

Fe sefydlais fy musnes yn 2009. I ddechrau, ro’n i’n cynnig hyfforddiant un-i-un – gan helpu pobl i ddod yn fwy hyderus a llawn cymhelliant drwy oresgyn gorbryder neu ofnau penodol. A dyna pryd dechreuodd fy nghleientiaid ofyn i fi ddysgu nhw sut i hyfforddi pob eraill. Dyna pryd wnes i ychwanegu’r elfen hyfforddiant i’m busnes. Cymerodd cryn dipyn o waith ac ad-drefnu, ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, yr hyfforddiant yw prif bwyslais fy musnes.

Fe ddes i o deulu lle ro’dd pawb yn hunan-gyflogedig neu’n rhedeg busnes, felly pan ges i gynnig y cyfle i gymryd yr awenau mewn caffi bach yn 18 oed, fe wnes i achub ar y cyfle. Wrth dyfu i fyny, fe welais fy nhad-cu yn cymryd yr awenau mewn busnesau lle na wyddai unrhyw beth amdanyn nhw a lle dysgodd yn gyflym, felly ro’n i’n ffyddiog y gallwn i wneud yr un peth.

Mae yna broblemau i'w datrys drwy’r amser a phan mai eich busnes eich hun yw e, chi yw'r un sy'n gorfod dod o hyd i'r atebion. Ro’dd dod o hyd i'r adeilad cywir yn sialens benodol ac ro’dd adnewyddu fy swyddfeydd yn brosiect enfawr a gymerodd fwy o amser ac a gostiodd yn fwy na'r disgwyl, ond mae wedi bod yn wych cael fy swyddfa fy hun i weithio ynddi yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

Un o'r pethau rwy'n eu hoffi’n fawr yw'r her o ddod â rhywbeth newydd i’r busnes. Rai blynyddoedd yn ôl, penderfynais cael fideos proffesiynol wedi’u cynhyrchu. Ro’dd hwn yn faes gwbl newydd i fi, a bu’n rhaid i fi ddysgu sgiliau newydd er mwyn sicrhau bod y fideos yn gweithio fel deunydd hyrwyddo.

Dydych chi byth yn gwybod yn iawn beth fydd yn gweithio nes i chi roi cynnig go iawn arni, a phob hyn a hyn, mae rhywbeth yn gweithio’n llawer gwell na'r disgwyl ac ry’ch chi’n cael cyfle i symud eich busnes i lefel newydd.

Rwy’n meddwl am fusnes fel endid byw. Mae’n rhaid i chi edrych ar ei ôl, rhoi maeth iddo er mwyn iddo dyfu. Mae mor bwysig addasu i’r marchnadoedd cyfnewidiol oherwydd does dim byd yn sefyll yn ei unfan am hir. Dydych chi byth yn gwybod yn iawn beth fydd yn gweithio nes i chi roi cynnig go iawn arni, a phob hyn a hyn, mae rhywbeth yn gweithio’n llawer gwell na'r disgwyl ac ry’ch chi’n cael cyfle i symud eich busnes i lefel newydd. 

Mae busnesau wedi’u hadeiladu ar berthnasoedd, felly mae’n bwysig mynd y cam ychwanegol hwnnw ar gyfer eich cwsmeriaid, drwy gynnig gwasanaeth gwych a sicrhau eu bod yn cael gwerth enfawr wrth brynu.