Geraint Jones
Becws Islyn
Trosolwg:
Popty a Siop Goffi
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Sefydlodd Geraint ei fusnes 6 mlynedd yn ôl o ganlyniad i sefyllfa a gododd. Cymerodd risg ac nid yw’n edifaru dim. Ar hyn o bryd mae’n ehangu ei fusnes ac yn buddsoddi i ehangu’r busnes i alluogi i’r busnes fod ar agor ac ar gael drwy gydol y flwyddyn. Erbyn hyn mae Becws Islyn yn cyflenwi nifer o gaffis a’r siop Spar leol. Byddai Geraint yn cynghori unrhyw berson ifanc i fynd amdani ac i fanteisio ar gyfleoedd oherwydd bod cymaint o wybodaeth a ffynonellau sy’n cynnig cyngor ac arweiniad ar gael.