Get Wonky
Get Wonky
Maciek Kacprzyk and Karina Sudenyte
Trosolwg:
busnes sudd naturiol
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Caerdydd

Cyfle i ffrwythau hyll: Sut mae dau entrepreneur ifanc wedi troi gwastraff bwyd yn fodel busnes

Mae dau entrepreneur ifanc yng Nghaerdydd wedi sefydlu busnes sudd naturiol i geisio lleihau’r hyn maen nhw’n ei weld yn broblem gynyddol o wastraff ac aneffeithlonrwydd wrth gynhyrchu bwyd a diod.

Gyda’r enw addas Get Wonky, maen nhw'n cynhyrchu amrywiaeth o sudd ffrwythau o bob lliw a llun ac o bob siâp a maint ac sy'n cael eu casglu â llaw. 

 

Cafodd y ddau eu hysbrydoli i gychwyn Get Wonky wrth sylweddoli fod cymaint o ffrwythau yn cael eu taflu oherwydd nad ydyn nhw’r siâp iawn.  Mae cynhyrchwyr bwyd a diod yn anodd iawn eu plesio ac yn gwrthod ffrwythau sydd heb fod y siâp iawn ar gyfer y farchnad.  Mae’r rhain yn aml yn cael eu taflu, sy’n golygu llawer iawn o wastraff.

Yn ôl sylfaenwyr y cwmni, Maciek Kacprzyk a Karina Sudenyte, a oedd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, mae diffyg ailgylchu bwyd yn broblem fawr drwy’r byd i gyd.   Ac maen nhw’n meddwl fod digon o ddefnyddwyr yn poeni digon am wastraff bwyd i brynu eu bwyd â’u diod o ffynhonnell gynaliadwy.  

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o sudd Get Wonky’n cael ei werthu ar gyfer arlwywyr mewn digwyddiadau -mae'r ddau fentrus hefyd yn bwriadu mentro i fân-werthu.

Meddai Maciek, sydd newydd raddio yn y gyfraith: “Cafodd Get Wonky ei eni allan o ddyhead i ymladd problem enfawr gwastraff bwyd yn Ewrop.  Ail gylchu gwastraff yw un o’n problemau pennaf heddiw, ac rydyn ni eisiau gwireddu ei newid.  

“Ac mae llawer o bobl yn amlwg yn cytuno.  Yn ddiweddar, cododd ein hymgyrch ariannu torfol ychydig o dan £3,000 i'n helpu i gael stoc ac, yn ei dro, denodd hynny ragor o ddiddordeb gan fuddsoddwyr.  Mae’r archebion wedi dechrau cyrraedd ac mae’r brifysgol a sawl sefydliad arall wedi awgrymu y gallen ni gael presenoldeb parhaol yno."

Ychwanegodd Karina, sy’n fyfyriwr Cyswllt Rheoli: “Yn aml, dyw perllannau ddim yn gallu gwerthu eu cynnyrch os nad ydyn nhw’r maint neu’r siâp iawn.  Rydyn ni'n talu cymaint â 70% o bris y farchnad am gynnyrch a fyddai, fel arall, yn cael ei wastraffu.  O ganlyniad, rydyn ni’n helpu i leihau gwastraff ffrwythau ac yn helpu tyfwyr."

“Mae tueddiad mawr ymysg defnyddwyr o bob rhan o Ewrop i geisio gwella ailgylchu a lleihau gwastraff.  Oherwydd y diddordeb y mae hynny wedi’i godi yma, mae Cymru wedi bod yn lle ardderchog i ni gychwyn ein busnes.  Rydyn ni wedi cael mwy o gyfleoedd yma nag a fydden ni wedi'u cael yng Ngwlad Pwyl neu Lithwania."

Mae Get Wonky hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru,  sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Bu Maciek a Karina mewn Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru gan dreulio penwythnos gyda 50 o egin entrepreneuriaid eraill mewn gweithdai a gwersi ac yn dysgu oddi wrth fodelau rôl Syniadau Mawr Cymru - entrepreneuriaid llwyddiannus o Gymru sydd, erbyn hyn, yn helpu rhaglen entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent fasnachol.  

Meddai Maciek: “Roedd y Bŵtcamp yn anhygoel o werthfawr i ni.  Roedden ni’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau a roddodd lawer o hyder i ni yn ein syniad busnes.  Roedden ni hefyd yn cyfarfod â chewri'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata a oedd ein rhoi ar ben y ffordd i gael ein syniad ar y map.  Fe fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â phob un o’n mentoriaid a'n cyd entrepreneuriaid ar ôl y penwythnos”.


Cysylltu gyda Get Wonky