Heather Clwyd Roberts
Businesswork Solutions Ltd
Trosolwg:
Busnes Cyfrifyddiaeth
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Dechreuais fy musnes fy hun er mwyn rhoi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i mi pan aned fy mab.

O ddechreuad rhan-amser, tyfodd fy ymarfer cyfrifyddiaeth yn gyflym ac mae cleientiaid drwy’r DU wedi defnyddio ein gwasanaethau.

Roeddwn i’n un o’r Modelau Rôl cyntaf i gofrestru pan ddechreuodd cynllun Syniadau Mawr Cymru ac rydw i wedi cynnal llawer o sesiynau mewn ysgolion a cholegau dros y blynyddoedd.

Prosiect arall yr ydw i’n cymryd rhan ynddo yw Menter yr Ifanc Cymru ac rydw i’n aelod o Fwrdd Gogledd Cymru.