Hector Riva-Palacio
Hector Riva-Palacio
Helping Reach Potential Ltd
Trosolwg:
Gweddnewid Pobl i Wireddu eu potensial llawn a sicrhau’r perfformiad gorau yn y gwaith.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Conwy

Drwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o bobl a busnesau, gan gynnwys 20 mlynedd yn gweithio mewn rolau arwain ar gyfer cwmnïau o’r radd flaenaf. Treuliwyd y 12 mlynedd ddiwethaf yn gweithio yn Camelot Lotteries, lle’r oeddwn yn arwain y rhaglen dysgu a datblygu ar gyfer y tîm gwerthiant. Yn ystod y cyfnod hwnnw ychwanegais at fy mhrofiad arwain a darganfod seicoleg gadarnhaol a seiliedig ar gryfderau a oedd wedi ailgynnau brwdfrydedd yn ogystal â’m galluogi i wireddu’r hyn rwy’n mwynhau ei wneud a’m helpu i gysylltu â’m gwir bwrpas – sef helpu pobl a thimau i wireddu eu potensial llawn.

Arweiniodd hynny at sefydlu fy Musnes – Helping Reach Potential, sy’n bractis datblygu pobl seiliedig ar gryfderau ac sy'n arbenigo mewn hyfforddiant proffesiynol a datblygu tîm.

Mae ein rhaglenni yn seiliedig ar fodel o berfformiad da sy’n ceisio ymestyn amcanion a nodau pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i feithrin hyder a chymhelliant hirhoedlog. Mae’r man cychwyn ar gyfer pob un o’n rhaglenni, o hyfforddiant gweithredol, gwerthiant, arweinyddiaeth a datblygu tîm, yn cael ei adeiladu ar sylfaen gadarn o hunanymwybyddiaeth. Helpu pobl a thimau i ddeall eu nodweddion busnes unigryw. Mae’r dull dilys hwn yn llywio’r broses arferion sy’n arwain at linell well yn ogystal ag arwain unigolion i rywle lle maen nhw’n perfformio’n dda.

Rydym yn credu’n gryf mai’r unig ffordd o gyflawni ein potensial yw drwy fod yr hyn y cawsom ein geni i fod. Boed hynny’n arweinydd, yn berson gwerthiant neu’n chwaraewr tîm – gwnewch hynny yn eich ffordd unigryw eich hun. Rydym yn helpu pobl a thimau i ddeall pwy ydyn nhw a sut gallan nhw fod y fersiwn orau o hynny gan gyfathrebu’n ddilys, yn onest ac yn glir.

Mae’r dull dilys hwn yn helpu i gadw pethau’n syml, meithrin ymddiriedaeth, cryfhau cydberthnasau a helpu ein cwsmeriaid i ddeall yr hyn rydym yn ei gynnig mewn gwirionedd.

Ein harwyddair: Gwireddu’r amhosibl

Rydym hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn bartneriaid rhyngwladol Strengthscope; mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal sawl achrediad Strengthscope mewn amrywiaeth o offer proffilio seicometrig ar gyfer timau datblygu mewnol yn ogystal ag ystod eang o weithwyr proffesiynol llawrydd.