Mae Huw Davies bob amser wedi’i yrru i greu pethau ar hyd llwybr a oedd yn anaml yn un syth. Ar ôl gadael yr ysgol, hyfforddodd fel saer maen sef crefft y mae’n mwynhau dychwelyd iddi o hyd. Yn ystod y 40 o flynyddoedd nesaf, gweithiodd fel: artist llawrydd; gwneuthurwr ffilmiau; ffotograffydd; cerflunydd; arlunydd; animeiddiwr; gwneuthurwr pypedau; digrifwr; chwedleuwr; ysgrifennwr; darlunydd ac ymarferydd adeiladu coed gwyrdd.
Mae Huw wedi rhannu ei angerdd creadigol drwy ysbrydoli pobl eraill mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru; Lloegr; Ffrainc ac UDA.
Bu’n arweinydd yr adran Gelf yn y Ffatri Gelf yn y Rhondda a bu ei arweinyddiaeth yn rhan arwyddocaol ohoni’n ennill Gwobr Buddsoddwr Mewn Pobl.
Bu Huw hefyd yn hyfforddwr/cynhyrchydd Tîm Adrodd Straeon Digidol Cipolwg ar Gymru, a enillodd BAFTA, am 9 mlynedd, a gynhyrchodd dros 700 o ffilmiau byr i’w darlledu ar y BBC, gan ysbrydoli a galluogi pobl eraill i adrodd eu straeon eu hunain yn eu geiriau eu hunain ar hyd a lled Cymru a thu hwnt iddi.