Hywel Ifans
Hywel Ifans
BCC IT
Trosolwg:
Gwasanaethau cymorth TG, systemau TG, ymgynghori a datblygu
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Fe gefais brofiad yn gweithio i’r GIG fel ‘bwydwr data’, ac wedyn fel cyflwynydd radio/technegydd gyda Radio Ceredigion, cyn bod yn dechnegydd i Ganolfan Gyfrifiaduron Blaenachddu (cyn iddo ddod yn BCC IT). Penderfynodd fy nghydweithwyr brynu’r cwmni ac fe ofynnon nhw i mi ymuno â nhw, Fe wnes i hynny, ac wedyn fe es i ati i brynu’r cwmni ganddyn nhw hefyd!

"Credwch yn eich hun, nodwch beth yw eich cryfder, ceisiwch ennill gymaint o brofiad â phosibl, a gwnewch yn siŵr bod y rhai sy’n bwysig i chi yn cefnogi’r hyn rydych am ei wneud. Wedyn, ewch amdani a GWEITHWCH YN GALED!"

Hywel Ifans - BCC IT

Mae BCC yn cynnig gwasanaethau cymorth TG, systemau TG, ymgynghori a datblygu i ystod eang o fusnesau ledled Cymru, Lloegr ac Iwerddon.

Yn ogystal â darparu a chefnogi technolegau cyfrifiadura traddodiadol, rydyn ni’n cynnig ein cyfleusterau cynnal a chyd-leoli ein hunain mewn canolfannau data pwrpasol. 

Rydw i wrth fy modd yn rheoli fy hun - roeddwn wedi cael fy mwlio gan reolwyr dros y blynyddoedd, ac ro’n i’n meddwl mai’r ffordd orau o ofalu am staff yn gywir oedd mynd ati i fod yn rheolwr fy hun.  Rhaid imi gyfaddef bod gwneud elw yn sbardun pwysig hefyd!


Cysylltu gyda Hywel